'Lot fawr o fwg a lludw': Rhybudd i drigolion yn y Rhondda oherwydd tân
Mae trigolion yn ardaloedd Glynrhedynog a Phendyrus yn Rhondda Cymon Taf wedi cael cyngor i aros yn eu tai a chau ffenestri oherwydd tân sy'n lledaenu yn wyllt.
Mae ffyrdd wedi cau hefyd ac mae gyrwyr wedi cael cyngor i osgoi’r ardal.
Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru eu bod nhw’n delio gyda thân yn y goedwig uwchben Maerdy.
Dywedodd Heddlu De Cymru brynhawn dydd Sadwrn fod disgwyl i’r ffordd rhwng Glynrhedynog a Phendyrus fod ar gau “am beth amser”.
Ychwanegodd y llu: “Mae trigolion lleol hefyd yn cael eu cynghori i aros y tu mewn a chadw eu ffenestri ar gau oherwydd bod lot fawr o fwg a lludw yn disgyn yn yr ardal.”