Newyddion S4C

Josh Tarling wedi ennill ail gymal y Giro d’Italia

Josh Tarling

Mae’r Cymro Josh Tarling wedi ennill ail gymal ras Giro d’Italia ddydd Sadwrn.

Fe enillodd Tarling, o Aberaeron yn Ngheredigion, y cymal 13.7 cilomedr yn erbyn y cloc o amgylch Tirana, prifddinas Albania, mewn amser o 16:07, un eiliad yn unig yn gyflamach na Primož Roglič o Slofenia.

Roedd Tarling, sy’n 21 oed, yn ffefryn gan nifer i ennill y cymal ddydd Sadwrn.

Roglič sydd wedi cipio crys y Maglia Rosa i arwain y ras.

Mae tri chymal cyntaf y ras 3,413 cilomedr yn Albania eleni cyn i’r ras ddod i ben dros 21 cymal yn gyfangwbl yn Rhufain ar 1 Mehefin.

Fe wnaeth y Cymro Geraint Thomas orffen y Giro d’Italia yn ail yn 2023 i Roglič ac yn y trydydd safle y llynedd tu ôl i Tadej Pogačar, hefyd o Slofenia, sydd ddim yn cystadlu eleni.

Dywedodd Tarling ar ôl y cymal: "Roedd yn ddiwrnod hir. 

"Fe wnes i wneud rhan gyntaf y cymal yn esmwyth ac o dan reolaeth a gwneud yn siwr i ddolurio yn y rhan olaf. Rwy'n hapus iawn."

Dyma’r cymal cyntaf iddo ennill mewn un o rasys mawr y gamp.

Llun: X/IneosGrenadiers

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.