Newyddion S4C

Cymru yn boethach na Corfu ac Ibiza ddydd Iau?

Wyn bach

Gyda'r gwanwyn yn cyrraedd, gallai Cymru fod yn boethach na Corfu ac Ibiza ddydd Iau, yn ôl rhagolygon y Swyddfa Dywydd.

Erbyn y prynhawn, ar 20 Mawrth, y darogan ydy y bydd y tymheredd wedi codi yn y rhan fwyaf o Gymru i 18 gradd selsiws.  

Mae hynny ryw saith gradd yn gynhesach na'r cyfartaledd ar gyfer yr adeg hon o'r flwyddyn.  

Mae'n bosibl felly y bydd hi'n gynhesach yng Nghymru nag Ibiza, Sbaen sydd i fod yn 17 gradd selsiws, a Corfu, Gwlad Groeg sydd i fod i gyrraedd 16 gradd selsiws ar ei uchaf.

Dywedodd Becky Mitchell o'r Swyddfa Dywydd: “Ry'n ni'n disgwyl tipyn o dywydd sych, a digonedd o gyfnodau heulog yn yr ychydig ddyddiau nesaf, a gallai'r tymheredd gyrraedd 19 gradd selsiws ar ei uchaf yn y Deyrnas Unedig ddydd Iau." 

Mae disgwyl iddi ddechrau cynhesu ddydd Mercher.

Ond cyn hynny, ddechrau'r wythnos, fe fydd hi'n ddigon oer, gyda rhew dros nos mewn mannau. 

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.