Dyn wedi marw ac un arall wedi ei anafu ar ôl ymosodiad honedig â chyllell
Mae dyn wedi marw ac mae gan ddyn arall anafiadau allai newid ei fywyd, ar ôl ymosodiad honedig gyda chyllell yng nghanolbarth Lloegr.
Mae dyn 51 oed o Coventry wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddio ac yn cael ei gadw yn y ddalfa.
Dywedodd yr heddlu bod swyddogion wedi eu galw i dŷ yn Ffordd Newcombe yn Coventry ychydig cyn 14:00 ddydd Sadwrn.
Roedd dyn yn ei 50au eisoes wedi marw yno, a chafodd dyn arall yn ei 50au ei ddarganfod gydag anafiadau i'w wyneb
Cafodd y dyn hwnnw ei gludo i'r ysbyty.
Mae ymholiadau'r heddlu yn parhau.