Newyddion S4C

Cwmni ynni o Abertawe yn ‘difrodi cartrefi’ yn ôl cwsmeriaid

Y Byd ar Bedwar

Cwmni ynni o Abertawe yn ‘difrodi cartrefi’ yn ôl cwsmeriaid

Mae cwmni ynni o Abertawe sy’n cael ei hyrwyddo gan y seren rygbi, Jonathan Davies, yn wynebu cwynion difrifol am safon y gwaith.

Mewn ymchwiliad gan raglen materion cyfoes Y Byd ar Bedwar, mae rhai cwsmeriaid sydd wedi derbyn gwaith gan Consumer Energy Solutions (CES) yn honni bod y cwmni wedi ‘difrodi eu cartrefi’ ac achosi ‘straen enbyd’ ar eu bywydau. 

Drwy gynllun ECO4 Llywodraeth y DU, mae CES yn cynnig systemau gwresogi am ddim i gwsmeriaid, ac wedi gwneud dros £35 miliwn o elw yn y flwyddyn hyd at Ionawr 2024.

Nôd y cynllun ECO4 yw i fynd i’r afael â thlodi tanwydd a gwella effeithlonrwydd ynni tai, ac mae’n cael ei ariannu gan gwmnïoedd ynni mawr.

Mae gwefan CES yn nodi fod y cwmni wedi ennill gwobrau am eu gwaith ar draws Cymru a de orllewin Lloegr.

Ond, mae Y Byd ar Bedwar wedi clywed gan dros 40 gwsmeriaid anhapus, gan gynnwys Jeff a Julie Jeremiah o Barcllyn ger Aberteifi.

Image
Jeff Jeremiah
Jeff Jeremiah

‘Hunllef’

Roedd Mr Jeremiah yn gymwys am system wresogi newydd, paneli solar, pwmp gwres ac inswleiddio waliau a tho, gyda’r gwaith i ddechrau yn Ebrill 2024.

Fe ddechreuodd y problemau yn syth, gyda’r pwmp gwres yn colli dŵr. Roeddent heb wres a dŵr poeth am dridiau.

Yna, roedd Mr Jeremiah yn honni i 35 o deils gael eu torri ar y to wrth i weithwyr CES osod y paneli solar a bod rhai yn rhydd.

“Ffones i nhw lan a wedes i eu bod nhw’n rhydd. Fe dda’th rhywun rownd, a dweud bod nhw yn ddanjeris. Gallen nhw lladd rhywun.”

Er i CES drwsio’r paneli solar yn y pen draw, roedd difrod hir dymor i do’r tŷ gan fod dau o'r teils oedd wedi torri o dan y paneli solar. 

“Edrychodd Julie lan i’r to a wedodd hi ‘ma’r ceiling yn mynd yn felyn’. So athon ni lan i’r atig lan lofft a dryches i, odd yr insulation o’dd yn pwyso lawr ar y ceiling yn socian, o’dd e’n dechre cracio,” meddai Mr Jeremiah.

“Roedden i’n ofni y byddai’r holl ceiling yn dod lawr.”

Image
Roedd dŵr yn gollwng o nenfwd tŷ Jeff a Julie Jeremiah oherwydd difrod i'r to
Roedd dŵr yn gollwng o nenfwd tŷ Jeff a Julie Jeremiah oherwydd difrod i'r to

Ddeuddydd yn ddiweddarach, tra roedd rhybuddion tywydd am Storm Darragh yn gwaethygu, fe aeth gweithiwr CES  i'r  cartref a dweud bod achos Mr a Mrs Jeremiah yn flaenoriaeth, ac y byddai rhywun allan ar frys.

Ond, daeth neb o CES i drwsio’r to cyn y storm.

“Y noson hynny, o’n i ar ddihun trwy’r nos, yn gwagu bwced a phadell bob dwy awr, ond do’n nhw ddim yn dala’r dŵr i gyd. Ro’dd dŵr dros y wal, y cyrteins, ro’dd y carped yn potsh, o’dd e’n socan.”

Daeth CES i drwsio’r teils, ail osod y paneli solar ac ail blastro’r nenfwd, ond dyw safon y gwaith ddim yn ddigon da, meddai Mr Jeremiah.

“Ma’ fe di achosi stress yn fwy na dim. Ni 'di bod ar ddihun trwy’r nos, becso trwy'r nos bod y ceiling yn dod lawr ar ben ni.” 

“Hwn o’dd ein dream retirement home. Ond, ma' fe wedi bod yn fwy o hunllef ers iddyn nhw ddod mewn.”

‘Teimlo fel mugs’

Ers mis Mai llynedd, mae Mr a Mrs Jeremiah wedi bod mewn anghydfod gyda CES oherwydd sawl problem gyda’r gwaith. 

Mae Mr Jeremiah wedi cysylltu â Chyngor ar Bopeth, wedi gadael adolygiadau gwael ar-lein ac yn ystyried camau cyfreithiol hefyd.

Erbyn hyn, mae Mr a Mrs Jeremiah wedi derbyn iawndal o £450 gan CES, ond nid yw’r swm yn ddigonol, yn ôl y ddau.

Mae’n nhw’n teimlo bod CES yn cymryd mantais o’u cartref nhw, ac o’r system ECO4.

“Ma nhw wedi cael yr arian am ein job ni, ’mlan i’r cwsmer nesa nawr. Dy’n ni ddim yn poeni iddyn nhw ragor.. Tough rili.

“Ma nhw’n addo popeth i chi ond chi’n cael dim yn nol. Mo'yn yr arian a ‘hit and run’… gwneud y job yn gyflym, a mynd ymlaen yn syth. 

“Ni’n teimlo fel mugs.” 

Fis Chwefror,  fe wnaeth CES wrthod rhoi unrhyw daliadau pellach i Mr a Mrs Jeremiah gan ddweud bod y broses ar ben. Ond wythnos diwethaf ac ar ôl i Y Byd ar Bedwar gysylltu â CES, mae'r cwmni wedi cadarnhau y byddan nhw yn eu had-dalu am gostau ail-blastro’r nenfwd. 

Mewn ymateb, fe ddywedodd CES fod y Jeremiahs wedi llofnodi cytundeb cyfreithiol am iawndal, oedd yn dweud bod y setliad yn foddhaol, a'u bod yn ddrwg gyda nhw eu bod yn anhapus gyda hyn.

Mewn ymateb i bryderon eraill y Jeremiahs, fe ddywedon nhw fod darn yn ddiffygiol yn y pwmp gwres ac fe wnaethon nhw ei newid cyn gynted â phosib. 

Maen nhw’n dweud bod rhai teils wedi’u difrodi cyn i CES ddechrau’r gwaith, ond bod eu gweithwyr wedi torri rhai ar ddamwain. Fe wnaethon nhw dalu i’w trwsio i gyd. Maen nhw’n dweud iddyn nhw ddarganfod asbestos yn y to a chael gwared ohono heb unrhyw gost i’r Jeremiah’s, a wnaeth oedi’r gwaith.

Maen nhw'n nodi iddyn nhw ddod o hyd i broblemau cymhleth gyda’r ôl-osod yn y tŷ, a’u bod wedi eu trwsio cyn gynted â phosib. 

Mae’n nhw'n dweud ei bod yn ddrwg ganddyn nhw glywed am effaith hyn ar y Jeremiahs, ac maen nhw'n ymddiheuro am y problemau.

Image
Fan CES



‘Adlewyrchu’n wael’ ar Jonathan Davies

Ers mis Awst 2024, mae’r cyn chwaraewr rygbi, Jonathan Davies yn llysgennad i CES, ac yn ymddangos ar eu gwefannau cymdeithasol a’u hysbysebion.

Yn ôl Julie Jeremiah, mae ei wyneb cyfarwydd wedi rhoi ffydd i gwsmeriaid yn y cwmni. 

“Ti’n gweld ei wyneb a ti’n meddwl, wel, ma' fe’n gorfod bod yn dda,” meddai. 

Ychwanegodd Mr Jeremiah: “Os byddwn i’n Jonathan Davies, bydden i ddim yn hapus i weithio i’r cwmni hyn, i roi’n enw fi arno fe. Mae’n adlewyrchu’n wael ar Jonathan.”

Fe wnaeth rhaglen Y Byd ar Bedwar holi Jonathan Davies os oedd am wneud sylw neu gymryd rhan yn y rhaglen, ond fe wrthododd y cynnig. 

System Eco4 yn ‘drysu pobl’

Yn ôl yr Adran dros Ddiogelwch Ynni a Net Sero yn Llywodraeth y DU, maen nhw wedi “etifeddu’r cynllun [Eco4] sy’n aml yn drysu pobl sydd am wneud eu cartrefi’n fwy effeithlon.”

Ychwanegodd:“Ni all y system hon ennyn hyder bellach a bydd gweinidogion nawr yn bwrw ymlaen ag ailwampio ysgubol trwy’r Cynllun Cartrefi Clyd, fel y gall pobl fod yn hyderus ynghylch ansawdd uwchraddio ac inswleiddio cartrefi, a allai helpu i arbed arian ar eu biliau.”

Mae CES hefyd yn cydnabod fod y cynllun yn "gymhleth iawn" ac yn dweud bod eu holl waith ECO4 yn cael ei oruchwylio gan gyrff swyddogol gan gynnwys Ofgem a Trustmark.

Dywedodd Ofgem, sy’n rheoleiddio’r cynllun, eu bod yn cydweithio gyda Llywodraeth y DU a chyrff fel Trustmark pan mae pryderon yn cael eu codi er mwyn eu datrys yn gyflym.

Mae Trustmark, sy’n gyfrifol am oruchwylio safon y gwaith, yn dweud eu bod nhw'n bryderus i glywed am yr enghreifftiau yn rhaglen Y Byd ar Bedwar. Maen nhw yn cael ar ddeall bod CES nawr yn gwneud gwaith ar atgyweirio’r tai.

Fe fydd yr ymchwiliad yn llawn i’w weld ar Y Byd ar Bedwar: Elw Gwyrdd?, nos Lun, 17  Mawrth am 20:00 ar S4C, S4C Clic a BBC iPlayer.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.