Cronfa ar gyfer maes coffa yn Southport yn cyrraedd y targed
Mae apêl i sefydlu maes chwarae er cof am ddioddefwyr Southport wedi cyrraedd y targed o £250,000.
Y bwriad yw adeiladu'r maes chwarae yn yr ysgol gynradd lle roedd Alice da Silva Aguiar a Bebe King yn ddisgyblion.
Cafodd Alice a oedd yn 9 oed a Bebe a oedd yn 6 oed, ynghyd ag Elsie Dot Stancombe, 7 oed, eu lladd mewn ymosodiad yn ystod dosbarth dawns ar 29 Gorffennaf y llynedd.
Mae tad Alice, Sergio Aguiar a phennaeth Ysgol Gynradd Churchtown, Jinnie Payne yn cefnogi'r apêl drwy redeg ym Marathon Llundain fis nesaf.
Wrth siarad ar raglen BBC Breakfast, dywedod Mr Aguiar y bydd miloedd o blant yn medru mwynhau'r maes chwarae yn y blynyddoedd nesaf.
“Roeddem wastad wedi dweud fod yr ysgol yn teimlo fel ail gartref i Alice," meddai.
“Gallaf ond dychmygu pa mor hapus fyddai hi i'w weld. Byddai wedi bod yn braf, pe bai hi wedi medru mwynhau'r parc ei hun.”
Cafodd Axel Rudakubana ei garcharu am isafswm o 52 o flynyddoedd fis Ionawr, am lofruddio'r tair o ferched, a cheisio llofruddio wyth plentyn arall, yn ogystal â'r hyfforddwraig ddawns Leanne Lucas a'r dyn busnes, John Hayes.
Cafodd Rudakubana ei eni yng Nghaerdydd, cyn i'w deulu symud i Sir Gaerhirfryn yn ddiweddarach.