Hawliau i bobl anabl roi cynnig ar weithio heb golli budd-daliadau
Bydd gan bobl anabl yr hawl i roi cynnig ar weithio, heb golli eu budd-daliadau, o dan gynllun newydd sydd ar fin cael ei gyhoeddi gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig.
Mae disgwyl i'r Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau Liz Kendall gyhoeddi deddfwriaeth, sy'n golygu na fyddai budd-daliadau bobl anabl yn cael eu hail asesu yn awtomatig, os y byddent yn dechrau gweithio.
Mae'r llywodraeth yn ymateb wedi i arolwg awgrymu fod pobl anabl a'r rhai sydd â chyflyrau iechyd hirdymor yn poeni na fyddai modd iddyn nhw hawlio budd-dal unwaith yn rhagor, pe bai nhw yn rhoi cynnig ar weithio ond eu bod yn gorfod rhoi'r gorau iddi.
Yn ôl arolwg diweddar gan yr adran gwaith a phensiynau, roedd 200,000 o bobl sy'n derbyn budd-daliadau anabledd neu oherwydd cyflwr eu hiechyd, yn barod i weithio pe bai'r swydd gywir neu'r gefnogaeth ar gael.
Mae bron bedair miliwn o oedolion oed gweithio yng Nghymru a Lloegr ar hyn o bryd yn hawlio budd-daliadau anabledd.
2.8 miliwn oedd y ffigwr cyn pandemig Covid-19.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU: “Mae'r system les yr ydym wedi ei hetifeddu wedi torri, ac yn caethiwo miloedd o bobl mewn bywyd ar fudd-daliadau heb unrhyw gymorth, na gobaith ar gyfer y dyfodol ym maes gwaith."
"Yn rhan o'n cynllun ar gyfer newid, bydd ein diwygiadau yn rhoi tegwch a chyfle i bobl anabl, a'r rhai sydd â chyflyrau iechyd hirdymor."