Ar ôl ymddangos o flaen ynadon ddydd Sadwrn, mae pedwar o bobl wedi eu cadw yn y ddalfa ar gyhuddiad o lofruddio dynes a gafodd ei saethu'n farw yn Nhonysguboriau, Rhondda Cynon Taf, nos Sul, 9 Mawrth. 

Mae Marcus Huntley, 20 oed o Laneirwg, Caerdydd; Melissa Quailey-Dashper, 39 oed o Gaerlŷr; Joshua Gordon, 27 oed o Oadby, Sir Gaerlŷr; a Tony Porter, 68 oed o Braunstone Town, Sir Gaerlŷr, wedi eu cyhuddo o lofruddio Joanne Penney.

Mae Tony Porter hefyd wedi ei gyhuddo o gymryd rhan mewn gweithgareddau oddi mewn i grŵp troseddol.  

Mae dynes arall, Kristina Ginova, 21 oed o Oadby, Sir Gaerlŷr wedi ei chyhuddo o gynorthwyo troseddwr.

Cafodd cais am fechnïaeth ar ei rhan ei wrthod. 

Ymddangosodd y pum diffynydd yn Llys Ynadon Caerdydd, a byddan nhw yn ymddangos yn Llys y Goron y brifddinas ar 18 Mawrth.