Newyddion S4C

Llai o falwod eleni medd arbenigwyr garddio

Malwen

Bydd llai o falwod mewn gerddi eleni o gymharu â'r llynedd, yn ôl yr hyn y mae arbenigwyr o'r Gymdeithas Arddwriaethol yn ei ragweld. 

Wedi blwyddyn dda i falwod yn 2024, mae tîm o'r elusen yn dweud fod y cyfnodau oer dros y gaeaf a'r cyfnod sych diweddar yn golygu y bydd llai ohonyn nhw mewn gerddi y gwanwyn hwn.  

Mae'n debygol hefyd y bydd malwod yn ffafrio gerddi lle mae llysiau fel moron, brócoli a letys yn tyfu. 

Oherwydd tywydd mwyn a gwlyb yn ystod y gwanwyn a'r haf y llynedd, roedd niferoedd y malwod ar eu huchaf ers i gofnodion ddechrau yn nechrau'r 1970. 

Ond oherwydd prinder cyfnodau sych a thwym yn ystod misoedd y gaeaf, ni chafodd malwod eu gorfodi i ymlwybro yn ôl o dan y ddaear er mwyn osgoi haul a gwres. Dyw hyn ddim yn llesol iddyn nhw.   

Yn ôl y Gymdeithas Arddwriaethol (RHS) mae malwod yn bwysig er mwyn sicrhau ecosystem iach mewn gerddi  

Wrth wahodd bywyd gwyllt i erddi, mae'r gymdeithas yn annog garddwyr i newid eu patrymau dyfrhau. Mae symud malwod i bentyrrau compost wedi iddi nosi er mwyn eu gwarchod hefyd yn awgrym arall.     

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.