Cyhuddo chweched person mewn cysylltiad â saethu dynes yn Nhonysguboriau
Mae chweched person wedi’i gyhuddo mewn cysylltiad â llofruddiaeth honedig Joanne Penney yn Nhonysguboriau, meddai'r heddlu.
Bu farw’r fenyw 40 oed ddydd Sul Mawrth 9 ar ôl cael ei saethu yn Llys Illtyd.
Mae Jordan Mills-Smith, 32 oed o Bentwyn, Caerdydd, wedi ei gyhuddo o lofruddiaeth, meddai Heddlu De Cymru.
Cafodd y dyn 32 oed ei arestio nos Wener yn ardal Suffolk.
Mae disgwyl iddo ymddangos yn Llys Ynadon Merthyr ddydd Llun.
Mae teulu Joanne Penney yn parhau i gael eu cefnogi gan swyddogion cyswllt teulu.
Dywedodd y Ditectif Brif Uwch-arolygydd Ceri Hughes: “Mae ein tîm o dditectifs a staff arbenigol yn parhau i ymchwilio i amgylchiadau marwolaeth drasig Joanne.
“Byddwn yn dal i annog unrhyw un sydd â gwybodaeth, naill ai am ei marwolaeth neu’r hyn a ddigwyddodd yn yr eiddo yn Llys Illtyd nos Sul, i gysylltu - gallai’r darn lleiaf o wybodaeth fod yn hollbwysig.
“Hoffwn ddiolch i’r gymuned leol am eu cefnogaeth i’r ymchwiliad hyd yn hyn ac i bawb sydd wedi siarad â ni ac wedi darparu gwybodaeth.”