McElhenney yn canmol 'sioe wych o ddynoliaeth' wedi digwyddiad meddygol
Mae Rob McElhenney, cydberchennog CPD Wrecsam wedi canmol cefnogwyr Wycombe am ddangos “sioe wych o ddynoliaeth” yn ystod y gêm rhwng Wrecsam a Wycombe ddydd Sul.
Cafodd y gêm bêl-droed ei chynnal ym Mharc Adams, ond cafodd ei hatal am bron i 45 munud yn dilyn argyfwng meddygol gan gefnogwr.
Dywedodd Rob McElhenney ar ei gyfrif X: “Wrth i fwy o wybodaeth ddod i’r amlwg, mae’n dod yn amlycach fyth fod ein cefnogwyr ni, staff Wycombe a chefnogwyr Wycombe wedi cydweithio i achub bywyd rhywun.”
“Ni allwn ddiolch digon i chi Wycombe. Am sioe wych o ddynoliaeth. Dyma sefydliad anhygoel.”
Dywedodd datganiad ar wefan Wrecsam ddydd Sul: “Gall Wrecsam gadarnhau bod y cefnogwr a ddioddefodd argyfwng meddygol yn y gêm yn erbyn Wycombe Wanderers ddydd Sadwrn bellach yn gwella yn yr ysbyty.”
“Hoffai pawb yn Wrecsam anfon ein dymuniadau gorau at y cefnogwr am eu gwellhad.”
Ychwanegodd y llefarydd eu bod eisiau diolch i’r meddygon a’r staff am eu “gweithredoedd cyflym”, ac i “bawb yn Wycombe am eu hymateb i’r digwyddiad ac am eu cyfathrebu clir drwy gydol y digwyddiad.”
Aeth Wrecsam ymlaen i ennill 1-0 a symud uwchben Wycombe i'r ail safle yn nhrydedd haen y gynghrair gyda naw gêm yn weddill yn y tymor.
Mae'r clwb yn gobeithio ennill dyrchafiad i'r Bencampwriaeth. Bydd y ddau dîm sydd yn gorffen yn gyntaf ac ail yn ennill dyrchafiad awtomatig.