Newyddion S4C

Tân yn lladd dros 50 mewn clwb nos yng Ngogledd Macedonia

Tan Gogledd Macedonia

Mae o leiaf 59 o bobl wedi marw ar ôl i dân gynnau mewn clwb nos yng Ngogledd Macedonia.

Yn ôl swyddogion ar ran y llywodraeth, mae mwy na 155 yn rhagor wedi eu hanafu. 

Ac mae 18 ohonyn nhw mewn cyflwr difrifol mewn ysbytai gerllaw.  

Yn ôl swyddogion iechyd, roedd yr holl bobl ifanc a fu farw rhwng 14 a 24 oed.  

Cynheuodd y tân yn ystod oriau mân fore Sul yn nghlwb Pulse yn nhref Kocani, rhyw 60 milltir i'r dwyrain o'r brifddinas Skopje. 

Yn ôl lluniau ar gyfryngau cymdeithasol, roedd tân mawr yn yr adeilad ar un adeg.  

Cynheuodd y tân tua 03:00 tra roedd band hip hop o'r enw DNK yn perfformio. Roedd yr adeilad yn dal ar dân oriau yn ddiweddarach.   

Dywedodd y Prif Weinidog Hristijan Mickoski fod hwn yn "ddiwrnod anodd a thrist iawn" i'r wlad, gyda chymaint o bobl ifanc wedi colli eu bywydau.   

Mae'r heddlu wedi cyhoeddi gwarant i arestio pedwar o bobl, yn ôl y gweinidog mewnol Pance Toskovski. 

Yn ôl adroddiadau, roedd hyd at 1,500 o bobl yn bresennol yn y cyngerdd. 

Mae lluniau o'r cyngerdd yn dangos gwreichion ar y llwyfan yn tasgu tuag at y nenfwd cyn i'r fflamau ymledu'n gyflym. 

Bydd Tîm Pêl-droed Cymru a chefnogwyr Y Wal Goch yn teithio i Skopje, yng Ngogledd Macedonia yr wythnos nesaf ar gyfer gêm rhwng y ddwy wlad yn rowndiau rhagbrofol Cwpan Y Byd ar 25 Mawrth.    

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.