'Nerfus ond cyffrous': Aleighcia Scott yn rhyddhau cân reggae Gymraeg
'Nerfus ond cyffrous': Aleighcia Scott yn rhyddhau cân reggae Gymraeg
Mae'r artist reggae a chyflwynydd Aleighcia Scott yn "nerfus ond cyffrous" wrth ryddhau cân reggae yn y Gymraeg ar ôl iddi ddysgu'r iaith.
Fe fydd ei chân 'Dod o'r Galon' yn cael ei rhyddhau ar 21 Mawrth, ac mae'n teimlo'n gyffrous a nerfus wedi iddi ysgrifennu a recordio cân ei hun yn y Gymraeg am y tro cyntaf.
"Mae mor cyffrous i fi achos mae’n teimlo fel un mwy accomplishment yn Cymraeg i fi," meddai wrth Newyddion S4C.
"Dwi’n teimlo’n cyffrous am gael y single newydd yn Cymraeg, a'r un cyntaf yn Cymraeg.
"Felly dwi’n teimlo bach yn nerfus hefyd. Ond ie, mwy cyffrous."
Ar frig siart iTunes?
Ar ôl treulio chwe blynedd yn cyfansoddi a recordio ei halbwm gyntaf ‘Windrush Baby’, fe lwyddodd Aleighcia i gyrraedd brig siartiau albwm reggae iTunes yn 2023.
Yn ogystal, cyrhaeddodd restr hir Albwm Reggae y Flwyddyn yng Ngwobrau’r Grammys ychydig wythnosau wedi iddi ryddhau'r albwm.
Ei gobaith y tro hwn yw gallu cyrraedd brig siartiau reggae iTunes eto ond gyda chân yn y Gymraeg y tro hwn.
"Dwi ychydig bach yn nerfus os fi am cyrraedd rhif 1 yn y charts reggae gyda cân Cymraeg.
"Ond mae'n bwysig i fi i dangos pobl bod e'n bosib.
"Bydd e'n grêt gweld cân Cymraeg ar top y reggae iTunes charts."
Dechreuodd y gantores o Dredelerch, Caerdydd ei thaith i ddysgu’r iaith dair blynedd yn ôl, a bellach mae hi'n un o bedwar hyfforddwr ar gyfres Y Llais ar S4C.
Dywedodd bod cymryd rhan yn y gyfres wedi rhoi mwy o hyder iddi wrth siarad Cymraeg, ond ei bod hi dal eisiau pwysleisio nad oes angen bod yn berffaith wrth siarad yr iaith.
"Dwi mo'yn pobl i gwybod mae’n iawn os ti ddim yn gael Cymraeg perffaith.
"Lot mwy o bobl yn siarad i fi yn ddweud ‘o dwi mo'yn i dysgu nawr.’
"So, keep going achos dwi’n gwybod dwi mo'yn helpu mwy o pobl i siarad Cymraeg.
Inline Tweet: https://twitter.com/NewyddionS4C/status/1888502415382511810
"Dwi jyst moyn i encourage mwy o pobl i gweld Cymraeg as jyst typical every day, a dwi moyn encourage mwy pobl i neud e hefyd.
"Ti’n gallu neud Cymraeg yn unrhyw beth. Jyst rhywbeth ti’n use, ti’n siarad, yn mwy accessible i pobl hefyd."