Galwadau i adfer hen neuadd y glowyr yn y de
Mae galwadau wedi’u gwneud i adfer adeilad Neuadd y Glowyr yng nghanol tref Merthyr Tudful sydd wedi bod yn wag ers degawdau.
Mewn cyfarfod o bwyllgor adfywio, tai a diogelu’r cyhoedd y cyngor, dywedodd y Cynghorydd Clive Jones fod yr adeilad ar Stryd yr Eglwys wedi bod yn wag ers o leiaf y 30 mlynedd diwethaf.
Dywedodd fod pryderon wedi’u codi ynglŷn â pheryglon o amgylch strwythur yr adeilad sydd bellach yn adfeilion ac yn llawn mieri a sbwriel.
Dywedodd y Cynghorydd Jones fod perchnogion preifat adeiladau rhestredig yn y dref yn gyfrifol am gynnal a chadw eu hadeiladau eu hunain.
Dywedodd fod gan swyddogion yn yr awdurdod y ddeddfwriaeth i ddelio â hyn a bod angen iddyn nhw wneud hynny.
Dywedodd y Cynghorydd Lee Davies eu bod yn wirioneddol benderfynol o gyrraedd rhywle gyda’r mater yn ystod y ddwy flynedd nesaf.
Mewn ymateb dywedodd swyddogion eu bod yn gwerthfawrogi'r rhwystredigaethau ac y byddent yn ceisio dod ag adrannau gwahanol o’r cyngor at ei gilydd i geisio dod o hyd i ateb i'r pryderon.