Newyddion S4C

'Angen newidiadau enfawr': Beth nesaf i Gymru ar ôl crasfa gan Loegr?

Tîm Rygbi dynion Cymru

Mae'r cwestiynau yn pentyrru ar ôl i Gymru orffen Pencampwriaeth y Chwe Gwlad heb yr un fuddgoliaeth ac wedi colled drom yn erbyn Lloegr yn Stadiwm Principality nos Sadwrn.

14 - 68 oedd y canlyniad - buddugoliaeth fwyaf Lloegr yng Nghaerdydd a Thîm Rygbi Cymru bellach wedi colli 17 gêm ryngwladol yn olynol.

Bydd cyfnod o adlewyrchu i Undeb Rygbi Cymru wedi'r bencampwriaeth, a phenderfyniad anodd wrth ddewis prif hyfforddwr newydd, ar ôl i Matt Sherratt gydio yn yr awenau dros dro wedi ymadawiad Wartten Gatland yng nghanol y Chwe Gwlad. 

Taith i Japan yn yr haf fydd nesaf i Gymru, ond sut mae cyn-chwaraewyr Rygbi Cymru yn asesu'r bencampwriaeth?

Image
Cymru yn erbyn Lloegr

Wrth siarad ar raglen Newyddion S4C,  dywedodd Sioned Harries bod angen i Gymru ddysgu sut i ennill eto.

“O’n i’n meddwl byddai Cymru wedi sarnu’r parti tipyn bach yn well, ond i fod yn onest roedd Lloegr yn hollol haeddiannol o’r fuddugoliaeth ‘na," meddai.

“Nhw oedd y tîm gorau, eu tactegau nhw, fel oeddwn nhw’n chwarae, eu hymosod, amddiffyn.

“O’dd jyst ‘da Cymru ddim ateb i beth oedd Lloegr yn gofyn i nhw heddiw.

“Ma’ rhaid i’r bois ddysgu sut i ennill eto. Ma’ rhaid i nhw gwybod sut i ennill, a ma’ rhaid wedyn cael y momentwm 'na i fynd mewn i’r haf a gemau’r hydref."

'Newidiadau enfawr'

Blaenoriaeth Undeb Rygbi Cymru fydd mynd ati i chwilio am reolwr newydd, ond mae cyn-faswr Cymru, Dan Biggar yn dweud bod angen newidiadau mawr.

"Roedd llawer o obaith cyn y gêm, ond roedd Lloegr yn fwy pwerus a dyna sut mae'r gêm ar hyn o bryd.

"Wrth edrych ymlaen, mae gan Gymru daith enfawr i Japan sydd yn hanfodol ar gyfer y rhestr detholion ar gyfer Cwpan y Byd.

"Y bobl bwerus yn URC, os nad ydych chi yn mynd i wneud penderfyniadau anodd, ar ôl colli 17 yn olynol, dydych chi siŵr o fod byth yn mynd i wneud y penderfyniadau anodd.

"Mae angen newidiadau enfawr yn rygbi Cymru - mae hynny'n amlwg iawn."

'Siomedig'

Er gwaethaf perfformiadau calonogol yn erbyn Iwerddon a'r Alban, derbyniodd Cymru'r llwy bren yn y bencampwriaeth eleni eto, am yr ail flwyddyn yn olynol.

Wedi'r perfformiadau addawol yn erbyn y Gwyddelod a'r Albanwyr, roedd nifer wedi gobeithio y byddai modd i Gymru guro Lloegr yng Nghaerdydd.

Wrth siarad ar S4C, dywedodd y cyn chwaraerwyr, Gareth Davies a Jamie Roberts bod y perfformiad yn un siomedig ddydd Sadwrn.

Image
Cyn-mewnwr Cymru, Gareth Davies
Cyn-fewnwr Cymru, Gareth Davies

“Beth sy’n siomedig yw, y gem ‘na yn erbyn Iwerddon o’dd glimpses o pethe da yn y gêm ‘na, a yn yr ail hanner yn erbyn yr Alban," meddai Gareth Davies.

“Fi’n credu, yn dod mewn i’r gêm yn erbyn Lloegr, o’dd lot o bobl yn eitha’ hyderus. O’n i’n meddwl bod gobaith gyda ni ennill y gêm ‘na.

“Felly ‘na beth ‘wi’n credu yw’r peth mwya’ siomedig yw bod ni wedi dangos glimpses yn y cwpl o gemau dwetha ond yn anffodus o’dd dim lot o positives i siarad am yn erbyn Lloegr.”

Ychwanegodd Jamie Roberts: “Y peth mwya’ siomedig fi’n credu ydy’r gwahaniaeth yn y safon, y gwahaniaeth yn y strwythur, amddiffynnol, ymosodol.

“O’dd rhaid rhoi mwy o pŵer yn y tacl yn yr amddiffyn, oedd yr amddiffyn yn eitha’ wan.

“O'dd e mor, mor hawdd i Loegr, a dyna oedd y peth mwya’ siomedig.”

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.