Newyddion S4C

Gwaharddiad i ddyn am daflu alcohol cyn gêm Caerdydd a Bryste

Tafan O'Neill's Caerdydd

Mae dyn 18 oed o Sir Gaerloyw wedi cael ei wahardd rhag mynd i unrhyw gêm bêl-droed yn y Deyrnas Unedig am dair blynedd, ar ôl iddo daflu alcohol tuag at dafarn yng Nghaerdydd. 

Roedd Mackenzie Bailey o Yate ymhlith torf o gefnogwyr tîm Bristol City a aeth i ganol dinas Caerdydd cyn y gêm yn erbyn yr Adar Gleision ar 15 Chwefror.

Cafodd ei weld gan yr heddlu yn taflu can o alcohol tuag at dafarn O'Neill's yng nghanol y brifddinas.

Llwyddodd plismyn i'w adnabod yng nghanol y dorf yn Stadiwm Dinas Caerdydd yn ddiweddarach a chafodd ei arestio o dan y ddeddf gyhoeddus. 

Mae'r gwaharddiad yn golygu na all Bailey fynd i mewn i unrhyw gêm bêl-droed am y tair blynedd nesaf yn y Deyrnas Unedig.

Pan fydd gemau yn cael eu cynnal y tu allan i'r Deyrnas Unedig, bydd angen iddo gysylltu â gorsaf heddlu benodol ac ildio ei basbort. 

Dywedodd y Cwnstabl Simon Chivers o Heddlu De Cymru: " Ble bynnag fo tystiolaeth o anhrefn yn gysylltiedig â phêl-droed, byddwn yn dod o hyd i'r rhai sydd yn gyfrifol, er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu dwyn i gyfrif. 

"Mae'r mwyafrif llethol o gefnogwyr pêl-droed yn ymddwyn yn barchus - unigolion fel yr un yma sy'n rhoi enw drwg i gefnogwyr pêl- droed a'u clybiau. Ni fyddwn yn goddef y fath ymddygiad."

Yn ogystal â'r gwaharddiad, cafodd Mackenzie Bailey ddirwy o £500 a gorchymyn i dalu £85 o gostau, a £200 o daliad ychwanegol.   

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.