Newyddion S4C

Cadw capten yn y ddalfa ar ôl i long gargo wrthdaro â thancer

MV Stena

Mae capten llong gargo wedi ei gadw yn y ddalfa ar ôl cael ei gyhuddo o ddynladdiad trwy esgeulustod difrifol wedi i’w long wrthdaro â thancer olew ym Môr y Gogledd.

Fe ymddangosodd Vladimir Motin, 59 oed o Primorsky, St Petersburg, Rwsia, yn Llys Ynadon Hull fore dydd Sadwrn, ac ni wnaed cais am fechnïaeth. 

Fe wnaeth y llong Solong o Bortiwgal wrthdaro â thancer yr Unol Daleithiau Stena Immaculate oddi ar arfordir Sir Efrog am tua 10:00 fore Llun.

Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron wedi cyhoeddi mai dyn 38 oed o Ynysoedd Philippines, Mark Angelo Pernia, yw'r aelod o griw’r Solong sydd ar goll.

Maen nhw'n tybio ei fod wedi marw.

Brynhawn Mawrth, cyhoeddodd Gwylwyr y Glannau fod y Solong yn dal ar dân ym Môr y Gogledd, a bod y tân ar y tancer olew yn llawer llai ffyrnig.

Llwyddodd 36 o bobl i ddod i’r lan ar ôl y gwrthdrawiad rhwng y llongau.

Cafodd pob un o’r 23 oedd ar fwrdd y tancer olew eu hachub – ond roedd un o’r 14 aelod o griw'r llong gargo yn dal ar goll.

Dywedodd Gwylwyr y Glannau eu bod wedi dod â'r gwaith chwilio i ben am 21.40 nos Lun.

Llun: Wochit

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.