Newyddion S4C

Achos saethu Tonysguboriau: Cyhuddo pump o bobl

Joanne Penney
Joanne Penney
Mae pump o bobl wedi eu cyhuddo ar ôl i ddynes gael ei saethu'n farw yn Nhonysguboriau, Rhondda Cynon Taf, nos Sul ddiwethaf.   
 
O'r pump, mae pedwar wedi eu cyhuddo o lofruddiaeth ac un o gynorthwyo troseddwr. 
 
Yn ogystal, mae person arall wedi ei arestio.    
 
Bu farw Joanne Penney a oedd yn 40 oed, ar ôl iddi gael ei saethu yn Llys Illtyd yn y dref. 
 
Tri dyn a dwy ddynes sydd wedi eu cyhuddo.
 
Mae Marcus Huntley, 20 oed o Laneirwg, Caerdydd wedi ei gyhuddo o lofruddiaeth.   
 
Mae Melissa Quailey-Dashper, 39 oed, o Gaerlŷr wedi ei chyhuddo o lofruddiaeth.  
 
Mae Joshua Gordon, 27 oed, hefyd o Oadby, Sir Gaerlŷr wedi ei gyhuddo o lofruddio. 
 
Mae Tony Porter, 68 oed, o Braunstone Town, Sir Gaerlŷr wedi ei gyhuddo o lofruddio, a chymryd rhan mewn gweithgareddau troseddol.   
 
Mae Kristina Ginova , 21 oed, o Oadby, Sir Gaerlŷr wedi ei chyhuddo o gynorthwyo troseddwr.
 
Bydd y pump yn ymddangos yn Llys Ynadon Caerdydd yn ddiweddarach ddydd Sadwrn.  
 
Mae ditectifs hefyd wedi arestio dyn 32 oed nos Wener yn ardal Suffolk. 
 
Apêl
 
Dywedoddd y Ditectif Brif Uwch-arolygydd Ceri Hughes sy'n arwain yr ymchwiliad: " Mae ein tîm yn dal i geisio darganfod yr holl amgylchiadau arweiniodd at farwolaeth drasig Joanne.
 
"Rwy'n annog unrhyw un sydd â gwybodaeth am ei marwolaeth, neu be ddigwyddodd yn y cartref yn Llys Illtyd nos Sul, i wneud y peth iawn a chysylltu â ni. Gallai'r darn lleiaf o wybodaeth fod yn allweddol bwysig," meddai.
 
Mae Heddlu'r De yn bwrw golwg ar sawl ffactor, yn cynnwys y posibilrwydd y gallai Joanne Penney fod wedi ei chamgymryd am rywun arall.
 
Brynhawn Gwener, cyhoeddodd ei theulu ddatganiad yn rhoi teyrnged iddi: “Rydym wedi ein syfrdanu gan golled drasig ein hannwyl Joanne. Roedd hi'n ferch, mam, chwaer, a nith – roedd hi’n cael ei charu gan bawb oedd yn ei hadnabod. 
 
"Ni wnawn fyth anghofio ei charedigrwydd, ei chryfder, a'i chariad at ei theulu.
 
“Yn ystod y cyfnod hynod anodd hwn, rydym yn gofyn am breifatrwydd wrth i ni alaru.
 
"Gwerthfawrogwn gefnogaeth a chydymdeimlad y gymuned a gofynnwn yn garedig i’n teulu gael lle i alaru mewn heddwch.
 
“Byddem yn ddiolchgar pe gallai unrhyw un sydd â gwybodaeth rannu hyn gyda thîm ymchwilio’r heddlu.
 
“Diolch am barchu ein dymuniadau.”


 

 
 
 
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.