Beirniadu Cyngor Conwy am ddiswyddo athrawon cerdd
Mae undeb llafur wedi beirniadu Cyngor Conwy am ddiswyddo athrawon cerdd yn sgil toriadau.
Mae’r Undeb Addysg Genedlaethol (NEU) wedi beirniadu Cyngor Conwy am ddiswyddo athrawon cerdd wrth i'r awdurdod newid eu trefn gan ddefnyddio cwmni allanol i ddarparu gwersi cerddoriaeth i ddisgyblion y sir.
Er nad yw'r cyngor wedi torri cyllidebau ysgolion ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf, fe dorrodd cyllidebau ysgolion 5% yn 2024 a 2023.
Rŵan mae’r cyngor yn dweud bod Llywodraeth Cymru yn torri'r grant cerddoriaeth, sy’n golygu y byddan nhw'n symud i fodel newydd.
Bydd y model yma yn defnyddio darparwyr allanol i roi gwersi cerddoriaeth i ddisgyblion a hynny am gost.
Yn ôl gwefan Cyngor Conwy, maen nhw eisoes yn codi £7 y wers am wersi cerddoriaeth sy'n rhan o'r cwricwlwm.
Dywedodd John Owen o’r Undeb Addysg Genedlaethol y bydd nifer o athrawon "profiadol iawn" yn cael eu colli.
"Ym mis Ionawr 2025, fe wnaeth cabinet Cyngor Conwy gymeradwyo cynllun i symud tuag at wneud darpariaeth gerddoriaeth yn ysgolion Conwy ddim ar gael mwyach drwy’r awdurdod lleol ond drwy ddarparwr allanol," meddai.
"Mae staff addysgu a rheoli’r gwasanaeth cerdd wedi cael gwybod y byddan nhw’n cael eu diswyddo o ddiwedd mis Awst eleni.
"Mae nifer y staff fydd yn cael eu heffeithio mewn ffigurau dwbl ac wedi gwasanaethu am gyfnod hir ac yn brofiadol iawn."
Ychwanegodd: "Mae staff y gwasanaeth cerdd wedi cael eu syfrdanu gan y penderfyniad.
"Ac maen nhw'n pryderu na fydd unrhyw ddarparwyr allanol yn gallu cynnal yr un safonau."
'Y ffordd orau ymlaen'
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Conwy eu bod wedi bod yn edrych ar ffyrdd o "ddiogelu" darpariaeth addysg gerddorol i ddisgyblion.
"Mae’r ateb a gytunwyd gan gynghorwyr i Gonwy i ddarparu hyfforddiant cerddoriaeth a mynediad i gerddoriaeth trwy fodel arddull cydweithredol ac i gyflawni’r Cynllun Cenedlaethol ar gyfer cerddoriaeth yn golygu bod y cyngor yn cadw arolygiaeth strategol o ddarpariaeth gwasanaeth cerddoriaeth, ond y gall ddefnyddio profiad a chefnogaeth cwmni cydweithredol," meddai'r llefarydd.
"Mae gan y trefniant hwn y fantais hefyd o allu cael mynediad at ystod o gyllid nad yw ar gael i gynghorau."
Ychwanegodd y bydd plant sy'n cael cinio ysgol am ddim yn parhau i gael gwersi cerddoriaeth am ddim.
Mae’r Cynghorydd Julie Fallon, aelod cabinet addysg Cyngor Conwy, yn cefnogi’r model newydd.
"Ar adeg pan fo cyllidebau cynghorau o dan bwysau difrifol, ynghyd â’r rhagolygon y bydd grantiau’n lleihau, bydd y ffordd newydd hon o ddarparu addysg gerddorol yn sicrhau cynaliadwyedd i ddisgyblion ysgolion Conwy.
"Mae hwn yn fodel sy’n cael ei ddefnyddio’n llwyddiannus mewn awdurdodau lleol eraill, ac rydym yn hyderus ei fod yn cynnig y ffordd orau ymlaen i wneud yn siŵr bod addysg cerddoriaeth yn parhau i fod mor hygyrch i gymaint o blant â phosibl."
Mae Cyngor Conwy wedi cynyddu’r dreth gyngor tua 30% mewn tair blynedd, gan dorri gwasanaethau o ganlyniad.
Ond mae'n dweud mai Llywodraeth Cymru sydd ar fai am y diffyg cyllid.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym wedi buddsoddi £13m yn y Gwasanaeth Cerddoriaeth Cenedlaethol, sy’n darparu cyfleoedd i blant a phobl ifanc rhwng 3 ac 16 oed gymryd rhan mewn gweithgareddau a phrofiadau cerddoriaeth.
"Mae’r gwasanaeth yn cynnwys rhaglenni i ysgolion, gan gynnwys ‘Profiadau Cyntaf’ a ‘Llwybrau Cerddoriaeth’, gan helpu dysgwyr i feithrin y wybodaeth, y sgiliau a’r profiadau i danio angerdd am gerddoriaeth a chefnogi astudiaeth bellach."
Yn dilyn cyfnod ymgynghori, bydd y cyngor yn gwneud penderfyniad terfynol ar y cynnig ddydd Iau 20 Mawrth.