Galw ar Putin 'i roi'r gorau i chwarae gemau' gyda chadoediad heddwch
Galw ar Putin 'i roi'r gorau i chwarae gemau' gyda chadoediad heddwch
Mae’n rhaid i Arlywydd Rwsia Vladimir Putin roi’r gorau i chwarae gemau gyda chadoediad a dod at y bwrdd, meddai Syr Keir Starmer, wrth iddo gynnal trafodaeth gydag arweinwyr y byd i drafod heddwch yn Wcráin.
Fore Sadwrn, dechreuodd y Prif Weinidog alwad fideo gydag arweinwyr nifer fawr o wledydd, i ddatblygu’r cynllun heddwch y mae wedi ei ddatblygu gydag eraill.
Dywedodd Syr Keir Starmer yn bydd yn rhaid i'r Arlywydd Putin ddod at y bwrdd "yn hwyr neu hwyrach."
Ychwanegodd y bydd angen i arweinwyr y byd baratoi i amddiffyn cytundeb heddwch allai gael ei lunio, a dywedodd fod Arlywydd Rwsia yn "ceisio yn dal y cytundeb yn ôl."
Nododd fod y cynllunio milwrol ar gyfer cytundeb heddwch Wcráin yn symud i'r "cam gweithredol."
Ychwanegodd Syr Keir Starmer y bydd penaethiaid milwrol yn cwrdd yn Llundain ddydd Iau er mwyn "rhoi cynlluniau cryf a chadarn yn eu lle er mwyn ceisio sicrhau cytundeb heddwch a diogelu Wcráin yn y dyfodol."
Roedd cynrychiolwyr o 26 o wledydd yn bresennol yn y cyfarfod, yn ôl Downing Street, yn cynnwys arweinydd Wcráin, Volodymyr Zelensky ac Arlywydd Ffrainc, Emmanuel Macron.
Eu nod yw perswadio America i sicrhau diogelwch Wcráin yn y dyfodol.
Bydd y gwledydd dan sylw yn gweithio i atal ymddygiad ymosodol Rwsia yn y dyfodol pe bai cytundeb heddwch yn cael ei gytuno gan weinyddiaeth Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump.
Mae Kyiv wedi rhoi ei chefnogaeth i gynnig cadoediad 30 diwrnod yr Unol Daleithiau, ond mae’r Kremlin wedi osgoi ymrwymo i hynny hyd yma, ac awgrymodd Mr Putin a’i swyddogion y byddent yn gwneud hynny dim ond os bydd cyfres o ofynion yn cael eu bodloni.
'Chwarae gemau'
Cyn iddo alw'r cyfarfod o arweinwyr y byd, dywedodd Syr Keir: “Ni allwn ganiatáu i’r Arlywydd Putin chwarae gemau gyda chytundeb Arlywydd Trump.
“Mae diystyriaeth lwyr y Kremlin o gynnig cadoediad yr Arlywydd Trump ond yn dangos nad yw Putin o ddifrif ynglŷn â heddwch.
“Os daw Rwsia at y bwrdd o’r diwedd, yna mae’n rhaid i ni fod yn barod i fonitro cadoediad i sicrhau ei fod yn heddwch gwirioneddol a pharhaus.
“Os na wnân nhw, yna mae angen i ni roi pwysau i gynyddu pwysau economaidd ar Rwsia i sicrhau diwedd ar y rhyfel hwn.”
Mae Mr Putin wedi dweud bod y syniad "yn gywir ac rydyn ni’n sicr yn ei gefnogi”, ond fe awgrymodd ei fod eisiau i Wcráin ollwng eu huchelgais i ymuno â Nato, ac i Kyiv ildio rheolaeth ar ranbarthau a gafodd eu cipio gan y Rwsiaid yn ystod y rhyfel, cyn iddo gytuno i atal yr ymladd.
Ychwanegodd y Prif Weinidog: “Mae Putin yn ceisio oedi, gan ddweud bod yn rhaid cael astudiaeth fanwl cyn y gall cadoediad ddigwydd, ond mae angen i’r byd weld gweithredu, nid astudiaeth na geiriau gwag ac amodau dibwrpas.
“Ni allai fy neges i’r Kremlin fod yn gliriach: i atal yr ymosodiadau barbaraidd ar Wcráin, unwaith ac am byth, a chytuno i gadoediad nawr.
"Tan hynny byddwn yn parhau i weithio rownd y cloc i sicrhau heddwch.”