Y Chwe Gwlad i barhau ar y BBC ac ITV am bedair blynedd arall
Mae'r BBC ac ITV wedi cyhoeddi y bydd gemau'r Chwe Gwlad yn parhau i gael eu darlledu'n rhad ac am ddim ganddyn nhw am bedair blynedd arall.
Mae’r darlledwyr cyhoeddus wedi sicrhau cytundeb ar hawliau i ddangos holl gemau’r bencampwriaeth rhwng 2026 a 2029.
Mae S4C wedi cadarnhau ei fod "mewn trafodaethau gyda threfnwyr Rygbi’r Chwe Gwlad am y ddarpariaeth Gymraeg.”
Bydd gemau Cymru, Yr Alban ac Iwerddon yn cael eu dangos gan y BBC, tra y bydd ITV yn dangos gemau Lloegr.
Dywedodd Cyfarwyddwr BBC Cymru, Rhuanedd Richards: “Mae’r cyhoeddiad heddiw yn newyddion ffantastig i gefnogwyr rygbi ledled Cymru.
“Rydw i yn angerddol dros gadw’r Chwe Gwlad ar deledu cyhoeddus ac rwy’n hapus bod y BBC yn cyd-weithio gydag ITV er mwyn sicrhau y bydd hyn yn parhau ar gyfer gemau Chwe Gwlad y dynion dros y pedair blynedd nesaf.”
Daw'r cyhoeddiad wedi galwadau gan Aelodau'r Senedd i'r bencampwriaeth barhau ar deledu "rhad ac am ddim".
Wrth ymateb i'r neewyddion, dywedodd y Prif Weinidog, Eluned Morgan: "Mae hyn yn newyddion gwych i gefnogwyr rygbi ar draws Cymru a dyfodol y gêm yma yn gyffredinol.
"Rydym wedi dadlau'n gyson y dylai'r Chwe Gwlad aros fel darllediad am ddim fel bod y mwyafrif o bobl Cymru yn gallu mwynhau a pharhau i gael eu hysbrydoli gan y twrnamaint arbennig hwn.
"Does dim amheuaeth bod rygbi, a'r Chwe Gwlad, o bwysigrwydd diwylliannol sylweddol i Gymru ac rydym yn gobeithio gweld y newyddion da am rygbi heddiw yn ymestyn i'r penwythnos gyda'r gêm yn erbyn Lloegr!"