Newyddion S4C

Galwadau o'r newydd i 'ddiogelu darlledu rhad ac am ddim' y Chwe Gwlad

25/04/2024
Cymru yn y Chwe Gwlad

Mae Pwyllgor Chwaraeon y Senedd wedi galw am "ddiogelu darlledu rhad ac am ddim" Pencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Ym mis Ionawr fe wnaeth galwadau i ddarlledu gemau rygbi'r Chwe Gwlad ar sianeli di-dâl yn unig gael eu gwrthod gan Lywodraeth y DU.

Fe ddaeth y penderfyniad yn dilyn pwysau gan ASau o Gymru i ychwanegu gemau'r bencampwriaeth i restr o chwaraeon sydd yn gorfod  cael eu darlledu ar sianeli di-dâl.

Bellach mae Pwyllgor Chwaraeon y Senedd wedi galw ar Lucy Frazer, Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon Llywodraeth y DU i symud Pencampwriaeth y Chwe Gwlad o fod yn ddigwyddiad 'Grŵp B' i fod yn ddigwyddiad 'Grŵp A'.

Fel rhan o'r drefn digwyddiadau rhestredig o dan Ddeddf Darlledu 1996, mae rhaid i ddigwyddiadau chwaraeon sydd ar restr Grŵp A cael eu darlledu ar sianeli di-dâl yn unig.

Ar hyn o bryd, Rownd Derfynol Cwpan FA Lloegr, Cwpan y Byd pêl-droed, rownd derfynol Cwpan Rygbi'r Byd, y Gemau Olympaidd a rowndiau terfynol Wimbledon yw'r cystadlaethau sydd wedi’u diogelu ar gyfer darlledu am ddim.

'Hanfodol'

Dywedodd Delyth Jewell AS, Cadeirydd Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol y Senedd bod perygl i nifer y bobl sy'n gwylio rygbi ostwng yn sylweddol.

Ychwanegodd ei bod yn galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi'r alwad.

“Mae gan rygbi rôl unigryw yn ein bywyd cenedlaethol, ac mae lle arbennig i dwrnamaint y Chwe Gwlad yng nghalonnau cynulleidfaoedd Cymru," meddai.

"Roedd hyn ar flaenau ein meddyliau wrth ddod i’r penderfyniad i alw am ei ddiogelu fel darllediad rhad ac am ddim.

“Rydym wedi clywed yn blwmp ac yn blaen am yr heriau sy’n wynebu’r gamp wrth i nifer y bobl sy’n chwarae rygbi leihau yng Nghymru. 

"Rydym hefyd wedi clywed pryderon ynghylch effaith gosod y twrnamaint y tu ôl i wal dalu, a sut y gall hyn effeithio ar y nifer o bobl sy’n chwarae rygbi.

“Mae llawer yn cydnabod yr effeithiau niweidiol o ganlyniad i roi criced yn y DU y tu ôl i wal dalu yn 2006. Rhwng 2006 a 2015, bu gostyngiad o 32% yn nifer y bobl sy’n chwarae criced. Allwn ni ddim gadael i’r un peth ddigwydd i rygbi.

“Wrth dyfu i fyny, mae pobl ifanc yng Nghymru yn cael eu hysbrydoli i gymryd rhan mewn chwaraeon drwy wylio rygbi ac mae’n hanfodol bod twrnamaint y Chwe Gwlad ar gael i bawb.”

'Hyrwyddo'r Gymraeg'

Ychwanegodd Delyth Jewell bod angen sicrhau defnydd y Gymraeg er mwyn ei "hyrwyddo i siaradwyr a dysgwyr."

“Rhaid cynnig y gemau yn y Gymraeg yn llawn," meddai.

"Mae darlledu’n Gymraeg yn hanfodol, nid yn unig o ran cynnig dewis i siaradwyr Cymraeg, ond hefyd er mwyn hyrwyddo’r Gymraeg i siaradwyr a dysgwyr fel ei gilydd wrth inni weithio tuag at darged Cymraeg 2050.”

Llun: Aled Llywelyn/Asiantaeth Huw Evans

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.