Cyhuddo capten o ddynladdiad ar ôl i long gargo wrthdaro â thancer olew ym Môr y Gogledd
Mae capten llong cargo a fu mewn gwrthdrawiad â thancer olew ym Môr y Gogledd wedi’i gyhuddo o ddynladdiad trwy esgeulustod difrifol.
Bydd Vladimir Motin, 59, o Primorsky, St Petersburg, Rwsia, yn ymddangos yn Llys Ynadon Hull ddydd Sadwrn, meddai Heddlu Humberside.
Fe wnaeth y llong Solong o Bortiwgal wrthdaro â thancer yr Unol Daleithiau Stena Immaculate ar arfordir Sir Efrog tua 10.00 fore Llun.
Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron wedi cyhoeddi mai dyn 38 oed o Ynysoedd y Ffilipinau, Mark Angelo Pernia, yw'r aelod o griw’r Solong sydd ar goll.
Maen nhw'n tybio ei fod wedi marw.
Brynhawn Mawrth, cyhoeddodd Gwylwyr y Glannau fod y Solong yn dal ar dân, a bod y tân ar y tancer olew yn llawer llai ffyrnig.
Llwyddodd 36 o bobl i ddod i’r lan ar ôl y gwrthdrawiad rhwng y llongau.
Cafodd pob un o’r 23 oedd ar fwrdd y tancer olew eu hachub – ond roedd un o’r 14 aelod o griw'r llong gargo yn dal ar goll.
Dywedodd Gwylwyr y Glannau eu bod wedi dod â'r gwaith chwilio i ben am 21.40 nos Lun.