Cyn arweinydd Reform yng Nghymru yn y llys ar gyhuddiad o lwgrwobrwyo
Mae cyn arweinydd Reform yng Nghymru wedi awgrymu y bydd yn gwadu iddo gymryd arian am wneud datganiadau ffafriol am Rwsia.
Fe ymddangosodd Mr Gill, 51, o Langefni yn Ynys Môn o flaen llys yr Old Bailey ddydd Gwener.
Mae wedi’i gyhuddo o wyth cyhuddiad o lwgrwobrwyo ac un cyhuddiad o gynllwynio i lwgrwobrwyo.
Honnir bod Gill wedi gwneud datganiadau yn Senedd Ewrop ac mewn darnau barn ar wasanaethau newyddion, fel 112 Wcráin, a oedd yn “gefnogol i naratif penodol” a fyddai “o fudd i Rwsia o ran digwyddiadau yn Wcráin”.
Dywedodd cyfreithiwr y diffynnydd, Clare Ashcroft, y byddai’n gwadu’r cyhuddiadau yn ei erbyn ond gofynnodd na fyddai’n cael cais i bledio yn ffurfiol eto.
Dywedodd yr erlynydd Mark Heywood KC wrth y llys fod y cyhuddiadau’n ymwneud ag amser y diffynnydd fel aelod o Senedd Ewrop.
Dywedodd fod cyhuddiadau hefyd wedi’u hawdurdodi yn erbyn ei gyd-gynllwyniwr honedig, Oleg Voloshyn.
Y gred oedd nad oedd nad oedd Oleg Voloshyn o fewn awdurdodaeth y llys.
Dywedodd Mrs Ustus Cheema-Grubb y byddai gwrandawiad i Mr Gill gael pledio ar 18 Gorffennaf ac achos llys arfaethedig o flaen barnwr yr Uchel Lys ar 29 Mehefin 2026 yn yr Old Bailey.
Wrth annerch y diffynnydd ar ddiwedd y gwrandawiad, dywedodd Mrs Ustus Cheema-Grubb: “Rwy’n mynd i’ch rhyddhau ar fechnïaeth ar yr un amodau ag o’r blaen.”
Cafodd Nathan Gill fechnïaeth ar yr amod ei fod yn ildio ei basbort, ddim yn cael dogfennau teithio rhyngwladol ac i beidio â chysylltu ag Oleg Voloshyn.
Llun: PA