'Balch': Fideo o fenyw ifanc yn llefaru cerdd Gymraeg yn mynd yn feiral
'Balch': Fideo o fenyw ifanc yn llefaru cerdd Gymraeg yn mynd yn feiral
Mae menyw ifanc o Fachynlleth wedi dweud ei bod hi'n "falch" o weld fideo ohoni ei hun yn llefaru cerdd Gymraeg yn mynd yn feiral ar TikTok.
Cafodd fideo o Mari Fychan, 21 oed, yn llefaru'r gerdd Etifeddiaeth gan y bardd Gerallt Lloyd Owen ei rannu ar TikTok heb yn wybod iddi.
Erbyn hyn, mae'r fideo - sy'n dangos ei pherfformiad yn Eisteddfod Ffermwyr Ifanc 2019 - bellach wedi ei cael ei wylio miliynau o weithiau ar yr ap.
"O'n i'n teimlo'n rili falch o weld o ar TikTok," meddai wrth siarad â Newyddion S4C.
"Mae'n eitha random bod 'na fideo o pum mlynedd nôl 'di dod nôl a bod cymaint o pobl 'di weld o – 'chydig bach yn nyts."
Dywedodd Mari, sy'n astudio'r Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd, bod gweld pobl yn trafod yr iaith yn gadarnhaol.
"Mae 'na gymaint yn cymharu'r iaith i Norwegian, Irish neu Gaelic," meddai.
"Mae'n rili neis gweld y sgyrsiau yn y comments a gweld cymaint o bobl gwahanol yn cael sgyrsiau tebyg a bod y sgwrs am yr iaith Gymraeg."
Gobaith
Fe aeth ymlaen i ddweud bod nifer o bobl wedi gofyn iddi am gyfieithiad o'r gerdd.
"Mae'n dangos sut mae pobl eisiau gwbod mwy am yr iaith Gymraeg," meddai.
"A dw i'n meddwl gan bod miliynau wedi gweld o a bod ni'n trio cael miliwn o siaradwyr Cymraeg [erbyn 2050], mae'n rili neud i chi feddwl waw, ella bod o'n fwy posib os ydi gymaint o bobl yn hoffi'r iaith ac yn siarad amdano."
Yn ôl Mari, gall TikTok gael ei ddefnyddio i godi ymwybyddiaeth o Gymru a'r Gymraeg.
"Swn i'n hoffi gweld mwy o TikTok yn cael ei ddefnyddio fel ffordd o ddangos steddfode a lot o betha am diwydiant Cymraeg," meddai.
"Petha ella bod pobl tu allan i Gymru ddim yn gyfarwydd ag o.
"Mae'n rili diddorol gweld cymaint o bobl sydd â diddordeb."
Mae Gerallt Lloyd Owen yn adnabyddus am ysgrifennu cerddi sy'n ymdrin â Chymru a Chymreictod.
Mae ei gerdd Etifeddiaeth yn trafod pwysigrwydd tir, hanes ac iaith i unrhyw genedl, a’r bygythiadau sy’n eu hwynebu yng Nghymru.