Newyddion S4C

Carcharu pedoffeil o Bontnewydd yng Ngwynedd am yr ‘achos gwaethaf’ i’r barnwr ei weld

Paul Roberts

Mae pedoffeil o Bontnewydd ger Caernarfon wedi ei garcharu am fod â 56,000 o luniau anweddus o blant yn ei feddiant.

Roedd gan Paul Roberts, 68 oed, fideos a llawlyfr pedoffeil gyda chyfarwyddiadau cam-drin rhywiol, yn ôl tystiolaeth o'r llys yng Nghaernarfon ddydd Gwener.

Cafodd Roberts ei garcharu am dair blynedd a hanner.

Dywedodd y Barnwr Petts wrtho: “Nid oes gennych unrhyw ddiddordeb mewn newid eich ffyrdd… mae gennych chi chwant rhywiol erchyll iawn.”

Dywedodd y barnwr mai hwn oedd “o bosib yr achos gwaethaf o’r math yma i mi ei weld.”

'Erchyll'

Cafodd Roberts orchymyn atal niwed rhywiol, a dywedodd y barnwr bod rhaid bod y gwaith ymchwilio gan yr Heddlu wedi bod yn “erchyll” yn yr achos “trallodus” hwn.

Cyfaddefodd Roberts iddo wneud delweddau anweddus a bod â llawlyfr pedoffeil yn ei feddiant ar ôl i'r heddlu ei arestio ym mis Gorffennaf 2023 ac archwilio ei ffôn a’i gyfrifiadur.

Dywedodd yr erlynydd, Laura Knightly, nad oedd bron i 400,000 o ddelweddau a fideos wedi eu categoreiddio, ond roedd rhagolwg yn dangos bod llawer iawn yn cynnwys deunydd cam-drin plant.

Dywedodd Duncan Bould ar ran yr amddiffyniad nad oedd unrhyw euogfarnau blaenorol, a bod partner Roberts wedi bod yn wael. 

Dywedodd y Barnwr Petts wrth y diffynnydd: “Mae’n ymddangos dy fod wedi casglu casgliad enfawr o ffotograffau a fideos o gam-drin plant yn rhywiol dros y blynyddoedd”.

Ychwanegodd fod Roberts wedi ei ddisgrifio fel un “trahaus a diystyriol” a bod yr adroddiad cyn-dedfrydu “yn peri gofid mawr i’w ddarllen.”.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.