Antur Waunfawr: Bil yswiriant gwladol £70,000 ‘ddim yn gwneud synnwyr’
Antur Waunfawr: Bil yswiriant gwladol £70,000 ‘ddim yn gwneud synnwyr’
Dyw hi “ddim yn gwneud synnwyr” codi taliadau yswiriant gwladol canolfannau sy’n darparu gofal yn y gymuned er mwyn ariannu’r gwasanaeth iechyd, yn ôl prif weithredwr Antur Waunfawr.
Mae’r elusen ym mhentref Waunfawr ger Caernarfon yng Ngwynedd yn wynebu talu £71,684 o gyfraniadau yswiriant gwladol, meddai hi.
Penderfynodd y Canghellor Rachel Reeves gyflwyno’r cynnydd mewn taliadau yswiriant gwladol ar gyflogwyr yn ei chyllideb yn yr Hydref.
Mae prif weithredwr Antur Waunfawr, Ellen Thirsk yn rhybuddio nad yw'r bil yn “gynaliadwy” iddyn nhw ac y gallai’r newid fis nesa’ arwain at lai o swyddi a dinistrio cymunedau.
“Rydyn ni’n wynebu her economaidd sylweddol yn barod - mae’n prisiau nwy ni, trydan ni, diesel ni, yswiriant a chyflogau - pob peth yn mynd i fyny,” meddai wrth Radio Cymru.
“Ac wedyn maen nhw’n rhoi bil ychwanegol i ni ar gyfer blwyddyn nesaf. 1 Ebrill mae o’n cychwyn.
“Ond dw i wedi cael prif weithredwr yn dweud wrtha fi, ‘dwi’m yn gwybod sut dwi’n mynd i dalu hwn’.
“Dwi’n derbyn bod yr esgid yn gwasgu, a dwi’n derbyn bod gwasanaethau iechyd yn hanfodol - mi wnes i weithio mewn iechyd am 12 mlynedd.
“Ond ar ddiwedd y dydd pam bod gofal cymdeithasol, a gofal yn y gymuned, sydd yn gwneud cymaint o waith ataliol ac yn arbed pobl rhag mynd i iechyd, yn cael eu cosbi fel ‘ma.
“Dydi o ddim yn gwneud synnwyr i ni.”
Dywedodd wrth raglen Newyddion S4C y bydden nhw’n cyflogi llai o bobl o ganlyniad i’r bil yswiriant gwladol.
“Bydd llai o bobl yn cael eu cyflogi, llai o dreth yn mynd i’r llywodraeth, ac fe fydd yn cloi'r economi yn llwyr,” meddai.
“Roedd yna ddiffyg sylweddol flwyddyn dwytha. Allwn ni ddim cyfro fo flwyddyn ar ôl blwyddyn - dydi o ddim yn gynaliadwy o gwbl.
“Mae’n mynd i ddinistrio cymunedau.”
‘Pwysau’
Fe wnaeth yr aelod o Senedd Cymru dros Arfon, Siân Gwenllian, alw am “gefnogaeth frys” i Antur Waunfawr yng Ngwynedd yn y Senedd.
Wrth ymateb dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt ei bod yn “falch iawn o'r cynnydd yn fy mhortffolio i” o ran y gefnogaeth i'r trydydd sector.
“Yn amlwg, nid y Llywodraeth hon a wnaeth y penderfyniadau hyn, ond mae'r pwysau hynny sydd yn dod i'r amlwg yn fater yr ydym ni'n disgwyl clywed rhywfaint o ddiweddariad yn ei gylch i'r rhai sydd yn y sector cyhoeddus,” meddai.
“ Fe wnaethoch chi sôn am un ganolfan benodol, ac fe fyddwn i'n gobeithio y bydden nhw'n cael cyngor a chefnogaeth gan eu cyngor gwirfoddol lleol nhw, yr ydym ni'n ei gefnogi, ond gan gydnabod hefyd fod cynnydd wedi bod yn y lwfans cyflogaeth i gyflogwyr llai yn y trydydd sector, ac o ran niferoedd gweithwyr hefyd.”