Michael Sheen i gyflwyno cyfres sy'n ymchwilio i gemegau gwenwynig yng Nghymru
Bydd yr actor Michael Sheen yn cyflwyno cyfres BBC newydd sydd yn ymchwilio i'r honiadau bod cemegau gwenwynig yn agos i'r lle y cafodd o ei fagu yn ne Cymru.
Sheen fydd yn cyflwyno cyfres ffeithiol Buried sydd yn ddatblygiad o'r podlediad oedd ar BBC Radio 4, Buried: The Last Witness.
Bydd y rhaglenni yn ymchwilio i ganfyddiadau Douglas Gowan. Fe wnaeth o ddarganfod bod lefelau uchel o gemegyn gwenwynig wedi ei ryddhau o le claddu sbwriel i'r aer.
Fe ymwelodd Douglas Gowan â Chwarel Brofiscin ger Llantrisant yn Rhondda Cynon Taf am y tro cyntaf yn 1967. Yno fe wnaeth o ddarganfod fod cwmni Americanaidd Monsanto wedi bod yn cael gwared â chemegau ers tro – a hynny wedi achosi sawl marwolaeth i dda byw cyfagos.
Roedd y cemegyn sy'n cael ei alw yn poly-chlorinated biphenyls (PCBs) wedi ei gladdu yn y ddaear. Pryder Gowan oedd na oedd modd torri'r cemegyn yma i lawr a'i fod yn cael effaith ar y gadwyn fwyd.
Fe wnaeth Sheen gyfarfod Gowan ar ôl darllen am ei waith ar Wikipeida.
Ar ôl i Gowan farw yn 2018 yn 74 oed fe gafodd ei ddogfennau cyfrinachol eu rhannu gyda'r BBC a'u defnyddio yn y podlediad ar BBC Radio 4.
Yn y gyfres ddiweddaraf yma fe fydd Sheen yn edrych eto ar yr hyn gafodd ei ddarganfod ac yn cyfarfod â rhai o'r bobl sydd wedi eu heffeithio yn y cymunedau. Bydd hefyd yn siarad efo cynghorwyr lleol, gwyddonwyr, arbenigwyr meddygol a newyddiadurwyr ymchwiliadol.
Dywedodd Sheen sy'n 56 oed: "Mae hon yn stori sydd wedi bod yn gythryblus i Gymru am ddegawdau ac i fi mae'n bersonol iawn. Fe wnes i gyfarfod Douglas Gowan bron i ddeng mlynedd yn ôl ac fe wnaeth ei rybuddion am y cemegau aros gyda fi."
Ychwanegodd: "Yn y gyfres yma rydyn ni yn trio darganfod y gwir am yr hyn sydd o dan ein traed, clywed gan y cymunedau sydd wedi eu heffeithio, a deall sut y gallai rhywbeth mor frawychus fod wedi ei gadw rhag dod i'r wyneb am gyfnod mor hir."
Cafodd Michael Sheen ei fagu ym Mhort Talbot a dywedodd mai bwriad y gyfres yw nid yn unig "canfod atebion" ond hefyd "cyfrifoldeb - mae'r hyn wnawn ni nawr o bwys ar gyfer dyfodol y cymunedau yma".
Dywedodd pennaeth comisiynu BBC Cymru, Nick Andrews bod hon yn "gyfres bwysig" fydd yn "synnu nifer".
Bydd y gyfres yn cael ei darlledu ar y BBC gyda mwy o fanylion i'w cyhoeddi.
Llun: Stephen Perry/Multitude Media /PA