
‘Un o gewri ein cenedl’: Cannoedd yn angladd Dafydd Elis-Thomas
‘Un o gewri ein cenedl’: Cannoedd yn angladd Dafydd Elis-Thomas
Mae cannoedd wedi ymgasglu yn Eglwys Llandaf yng Nghaerdydd ddydd Gwener ar gyfer angladd Dafydd Elis-Thomas a fu farw yn 78 oed ym mis Chwefror.
Roedd yn gyn arweinydd Plaid Cymru fel AS, yn Arglwydd, ac ef oedd Llywydd, neu Lefarydd, cyntaf y Cynulliad Cenedlaethol Cymreig pan agorodd yn 1999.
Fe wnaeth Prif Weinidog Cymru Eluned Morgan roi darlleniad yn ystod y gwasanaeth, gyda'i fywgraffydd Aled Eirug yn rhoi teyrnged iddo.
Roedd y canwr opera Gwyn Hughes Jones hefyd yn perfformio yn y gwasanaeth.
Ar ôl y gwasanaeth mae aeth hers Dafydd Elis-Thomas heibio i Senedd Cymru.
Mewn sylwadau a gyhoeddwyd cyn ei angladd dywedodd Eluned Morgan ei fod yn un “o gewri ein cenedl”.
“Dyn oedd yn angerddol tuag at ei wlad, yn angerddol tuag at yr iaith a diwylliant. Heb Dafydd dwi ddim yn meddwl bydden ni’n byw yn y Gymru ni’n byw ynddi heddiw.”

Ei fywyd
Yn ffigwr blaenllaw ym myd gwleidyddiaeth Cymru am ddegawdau, cafodd Dafydd Elis-Thomas ei eni yng Nghaerfyrddin yn 1946.
Fe dreuliodd ei flynyddoedd cynnar yn Llandysul, Ceredigion, ac yna yn Llanrwst yn Nyffryn Conwy.
Fe arweiniodd Plaid Cymru rhwng 1984 a 1991, a gwasanaethu fel AS Meirionydd ac yna Meirionydd Nant Conwy rhwng 1974 a 1992.
Fe gafodd ei benodi i Dŷ’r Arglwyddi yn 1992.
Ef oedd Llywydd, neu Lefarydd, cyntaf y Cynulliad Cenedlaethol Cymreig pan agorodd yn 1999.
Gadawodd y blaid yn 2016, gan wasanaethu yn y pen draw fel gweinidog annibynnol yn llywodraethau Carwyn Jones a Mark Drakeford.
Fe wnaeth ymddeol o wleidyddiaeth rheng flaen yn 2021.
Roedd yn gadeirydd ar Fwrdd yr Iaith Gymraeg rhwng 1994 a 1999, ac roedd yn gyn-aelod o Gyngor Celfyddydau Cymru.
Roedd hefyd yn gadeirydd ar Sgrin Cymru rhwng 1992 a 1999.
Yn gyn-ddarlithydd, roedd yn gyn-Ganghellor a chadeirydd Cyngor Prifysgol Bangor.