Newyddion S4C

Cyhuddo clybiau pêl-droed Aberystwyth a'r Seintiau Newydd o droseddau disgyblu

Craig Harrison

Mae CPD Tref Aberystwyth a CPD Y Seintiau Newydd wedi’u cyhuddo o droseddau disgyblu yn dilyn ffeinal Cwpan Nathaniel MG ar ddydd Gwener 28 Chwefror. 

Mae Rheolwr CPD Y Seintiau Newydd, Craig Harrison, wedi’i gyhuddo o ymddygiad amhriodol honedig, gan gynnwys iaith sarhaus ac ymddygiad ymosodol yn dilyn y ffeinal.

Mae CPD y Seintiau Newydd wedi’u cyhuddo o "fethiant honedig ei chwaraewyr a’u rheolwr i ymddwyn yn drefnus neu fethu ag ymatal rhag drais, ymddygiad bygythiol, difrïol, anweddus neu bryfoclyd."

Mae CPD Tref Aberystwyth hefyd wedi’u cyhuddo o fethiant honedig ei chwaraewyr i "ymddwyn yn drefnus neu fethu ag ymatal rhag trais, ymddygiad bygythiol, difrïol, anweddus neu bryfoclyd.

Mae gan y clybiau saith dwrnod gwaith i ymateb i nodi a yw'r cyhuddiad yn cael ei gyfaddef neu ei wadu.

Llun: Sgorio

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.