Carcharu tri dyn am herwgipio cynhyrchydd cerddoriaeth yn Sir Gâr
Carcharu tri dyn am herwgipio cynhyrchydd cerddoriaeth yn Sir Gâr
Mae tri dyn wedi cael eu dedfrydu i wyth mlynedd o garchar yr un ar ôl herwgipio cynhyrchydd cerddoriaeth o Lundain drwy ei ddenu i fwthyn yn ardal Llanybydder, Sir Gâr.
Clywodd Llys y Goron Abertawe mai cymhelliad gwleidyddol, crefyddol ac ariannol oedd i'r cynllun i gipio'r dyn Israelaidd ym mis Awst y llynedd.
Fe wnaeth Faiz Shah, 23, o Leeds, Mohammad Comrie, 23, o Bradford, ac Elijah Ogunnubi-Sime, 20, o Wallington, gynllunio'r drosedd mewn sgwrs grŵp ar wefan negeseuo Telegram, gan drafod pa eitemau oedd eu hangen arnynt.
Roedden nhw hefyd wedi trafod sut y bydden nhw’n gwyngalchu’r arian yr oedden nhw am orfodi’r dioddefwr i’w roi iddynt.
Yn Llys y Goron Abertawe ddydd Gwener, cafodd Shah ddedfryd o wyth mlynedd a mis o garchar, gorchymyn atal 15 mlynedd a gordal o £228.
Cafodd Comrie ddedfryd o wyth mlynedd a mis o garchar, gorchymyn atal 15 mlynedd a gordal o £228.
Cafodd Ogunnubi-Sime hefyd ddedfryd o wyth mlynedd a mis o garchar, gorchymyn atal 15 mlynedd a gordal o £228.
Bwthyn
Er mwyn cyflawni'r drosedd, roedd y tri wedi rhentu bwthyn ger Llanybydder ac wedi cynllunio ffordd o ddianc rhag ofn i’r heddlu gyrraedd.
Roedd y dioddefwr yn gynhyrchydd cerddoriaeth o Lundain, ac roedd y dynion wedi ei wahodd i weithdy cerddoriaeth ym mis Awst 2024 yn y bwthyn.
Fe drefnwyd bod tacsi yn mynd i nôl y dioddefwr o’i gartref ac yn ei gludo i'r bwthyn.
Pan gyrhaeddodd y tacsi’r bwthyn ar 26 Awst 2024, fe aeth y dioddefwr a'r gyrrwr tacsi i mewn i’r adeilad ac fe wnaeth y dynion ymosod arnynt.
Llwyddodd y gyrrwr tacsi i ddianc yn ôl i’w gerbyd ond fe fethodd y dioddefwr â dianc a chafodd anafiadau helaeth i’w ben yn ogystal â chleisiau ar ei gorff.
Cafodd y dioddefwr ei gadwyno i’r gwresogydd ond fe lwyddodd i dynnu’r gadwyn oddi ar y beipen a dianc o’r adeilad.
Cuddiodd mewn coed gerllaw a ffonio ei wraig, ac fe wnaeth hithau roi gwybod i’r heddlu.
'Gwirioneddol ofnus'
Fe gyflwynodd Gwasanaeth Erlyn y Goron dystiolaeth yn y llys a arweiniodd at ble euog gan y tri diffynnydd.
Dywedodd Michael Cray o Wasanaeth Erlyn y Goron: "Roedd y diffynwyr wedi cynllunio’r drosedd yn fanwl, ac wedi trafod beth oedden nhw am ei wneud, sut yr oedden nhw am ei gyflawni, a sut oedden nhw am ddianc gyda’r arian.
"Yn ffodus iawn, ni wnaethant lwyddo i gyflawni’r troseddau er gwaetha’r cynllunio manwl.
"Mae’n rhaid bod hyn wedi bod yn brofiad gwirioneddol ofnus i’r ddau ddioddefwr a oedd heb syniad mai trap oedd y cyfan."
Ychwanegodd: "Hoffwn ddiolch iddynt am gefnogi’r erlyniad hwn, ac rydym ni’n gobeithio y bydd y ffaith bod y troseddwyr hyn wedi cael eu dwyn gerbron y llys yn eu helpu nhw i symud ymlaen gyda’u bywydau."
Dywedodd yr Arolygydd Gareth Jones, Dirprwy Uwch Swyddog Ymchwilio: "Mae’n amlwg bod y drosedd hon wedi cael effaith ddofn, dirdynnol a pharhaol ar y dioddefwr a’i deulu.
"Roedd wedi'i chynllunio'n drylwyr ac roedd yn soffistigedig o ran elfennau, gan gynnwys defnyddio hunaniaeth ffug.
"Yn gynnar iawn yn ystod eu negeseuon i’w gilydd roedd yn amlwg mai eu bwriad yn y pen draw oedd herwgipio’r dioddefwr.
"Mae'r cymhelliant yn ymddangos yn ddeublyg: yn gyntaf, roedd yn amlwg eu bod yn bwriadu cymryd arian oddi wrth y dioddefwr; ac roedd yna gymhelliant gwleidyddol a hiliol hefyd."
Ychwanegodd: "Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi bod yn gysylltiedig â dod â’r achos hwn i’r llys, yn enwedig y tîm ymchwilio am eu dycnwch a’u proffesiynoldeb ac ymdrechion diflino’r swyddogion yn y lleoliad i leoli’r diffynyddion ar ôl chwiliad hir ac anodd."