
Angen i Gymru 'fanteisio ar awyrgylch pwerus y Principality' yn erbyn y Saeson
Mae angen i Gymru fanteisio ar "awyrgylch pwerus" Stadiwm Principality yn erbyn Lloegr wrth iddyn nhw geisio osgoi’r llwy bren yn y Chwe Gwlad eleni.
Dyna yw barn cyn gapten Cymru, Gwyn Jones, wrth i’r Cymry groesawu'r Saeson i’r brifddinas ddydd Sadwrn, gyda’r ymwelwyr â gobaith o ennill y bencampwriaeth.
Yng ngêm olaf Matt Sherratt wrth y llyw, fe fydd Cymru yn ceisio osgoi colli eu 17eg gêm o’r bron, yn ogystal â gorffen ar waelod y tabl am yr ail flwyddyn yn olynol.
Inline Tweet: https://twitter.com/NewyddionS4C/status/1900562260419842225
Er bod Lloegr yn ail yn y tabl wedi pedair gêm, mae Gwyn Jones yn credu fod yna gyfle i Gymru fantesio ar yr ‘anghysondeb’ mae tîm Steve Borthwick wedi ei ddangos hyd yma.
“Mae’n rhaid i Gymru wneud defnydd llawn o awyrgylch pwerus y Stadiwm Principality,” meddai Gwyn Jones, sydd yn rhan o dîm sylwebu S4C ar gyfer y gêm.
“Bydd yn rhaid iddyn nhw ddefnyddio’r bygythiad o orffen gyda’r llwy bren i’w hysgogi i daro pob crys gwyn gyda 10% yn fwy o rym nag arfer.

“Mae’n rhaid iddyn nhw fod yn wynebau eu gwrthwynebwyr o’r funud gyntaf, a chanfod y cydbwysedd rhwng chwarae gyda dwyster ond peidio bod yn fyrbwyll.
“Os y’n nhw’n gallu cyflawni hynny, fe allan nhw drechu’r Saeson. Mae Lloegr wedi bod yn anghyson hyd yma yn y bencampwriaeth.”
'Gobeithiol'
Dywedodd Mr Jones nad oedd Borthwick chwaith “yn gwybod beth yw ei dîm gorau.”
“Ond mae ganddyn nhw dîm sydd wedi’i galedu drwy chwarae yn Uwch Gynghrair Lloegr, ac yn Saeson, mae ganddyn nhw’r ymdeimlad naturiol o fod yn well na neb arall,” ychwanegodd.
“Dw i’n disgwyl i Gymru hedfan allan o’r blociau ddydd Sadwrn. Mae angen iddyn nhw fynd ar y blaen yn gynnar, cael y dorf mewn i’r gêm a gwneud i Loegr amau eu hunain.
“Rydw i’n obeithiol am fuddugoliaeth i Gymru, ond mae fy mhen yn dweud ei fod yn gam yn rhy bell i’r tîm yma sydd yn dal i ddatblygu.”
Mae Sherratt wedi wneud dau newid i’r tîm, gyda Aaron Wainwright yn dychwelyd i’r rheng ôl a Joe Roberts yn cymryd lle Tom Rogers ar yr asgell, ar ôl iddo dorri ei fawd yn gynnar yn y gêm 35-29 yn erbyn Yr Alban y penywthnos diwethaf.
Mae’r bachwr Dewi Lake yn dechrau ar y fainc, tra bod Nick Tompkins hefyd ymhlith yr eilyddion.
Inline Tweet: https://twitter.com/NewyddionS4C/status/1900180234579718637
Gyda Ffrainc, sydd ar frig y tabl, yn chwarae yn erbyn Yr Alban yn dilyn y gêm yng Nghaerdydd, fe allai Lloegr ennill y Chwe Gwlad pe byddent yn llwyddo i guro Cymru, a'r Ffrancwyr yn gorffen yn waglaw ym Mharis yn ddiweddarach.
Bydd y gêm yn cael ei dangos yn fyw ar S4C am 16.00 ddydd Sadwrn.
Llun: Asiantaeth Huw Evans