Newyddion S4C

Trump yn galw ar y Pentagon i ystyried opsiynau milwrol i gipio camlas Panama

Trump a Chamlas Panama

Mae gweinyddiaeth yr Arlywydd Trump wedi galw ar y Pentagon i ddarparu opsiynau milwrol i sicrhau bod gan y wlad fynediad llawn at gamlas Panama.

Mae’r gamlas wedi’i lleoli ar ran gulaf y tir rhwng Gogledd a De America ac yn cael ei ystyried yn un o ddyfrffyrdd pwysicaf y byd yn strategol.

Mae Donald Trump wedi dweud dro ar ôl tro ei fod am “gymryd Camlas Panama yn ôl’, ond nid yw wedi cynnig manylion ynghylch sut y byddai'n gwneud hynny, nac a fyddai angen gweithredu milwrol.

Dywedodd un swyddog o’r Unol Daleithiau fod dogfen sydd wedi cael ei disgrifio fel canllawiau diogelwch cenedlaethol interim gan y weinyddiaeth newydd, yn gofyn i’r fyddin edrych ar opsiynau i sicrhau mynediad “dilyffethair (unfettered)” at gamlas Panama.

Dywedodd ail swyddog fod gan fyddin yr Unol Daleithiau amrywiaeth eang o opsiynau posibl i sicrhau mynediad, gan gynnwys sicrhau partneriaeth agos â byddin Panama.

Dywedodd hefyd ei fod yn dal yn annhebygol i’r Unol Daleithiau ymosod yn filwrol ar Panama ar hyn o bryd.

'Perthyn i’r Panamaniaid'

Mae Trump wedi dadlau, heb dystiolaeth, bod China yn rheoli camlas Panama ac y gallai ddefnyddio’r ddyfrffordd i weithio’n erbyn America.

Mae Panama a China wedi gwadu unrhyw ymyrraeth dramor.

Yn ei araith agoriadol ym mis Ionawr, cyhuddodd Trump Panama o dorri addewid ar gyfer trosglwyddiad terfynol y gamlas ym 1999.

Dywedodd mewn anerchiad i Gyngres yr Unol Daleithiau’r wythnos diwethaf y bydd ei weinyddiaeth “yn adennill Camlas Panama, ac rydyn ni eisoes wedi dechrau gwneud”.

Wrth ymateb i adroddiadau o gamau milwrol posib gan yr Unol Daleithiau, dywedodd llywodraeth Panama y byddai’n parhau i amddiffyn ei sofraniaeth "yn gadarn".

Dywedodd Gweinidog Tramor Panama, Javier Martinez-Acha: “Nid oes gennyf ddim mwy i’w ddweud na bod Panama yn parhau i fod yn gadarn wrth amddiffyn ei thiriogaeth, ei chamlas, a’i sofraniaeth.”

“Gadewch iddi fod yn glir, mae’r gamlas yn perthyn i’r Panamaniaid a bydd yn parhau felly,” ychwanegodd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.