Carchar i ddyn o Langefni am ymosod ar ei gyn-wraig dro ar ôl tro
Mae dyn 44 oed a ymosododd ar ei gyn-wraig dro ar ôl tro, gan gynnwys ei llusgo i lawr y grisiau gerfydd ei gwallt, wedi cael ei garcharu.
Ymddangosodd Derek Owen, o Bencraig, Llangefni, yn Llys y Goron Caernarfon ddydd Iau 13 Mawrth ar ôl cyfaddef i ddau gyhuddiad o ymosod gan achosi niwed corfforol.
Fe wnaeth o gyfaddef hefyd i ddau gyhuddiad o ymosod drwy guro a bygwth difrodi eiddo.
Ym mis Hydref 2024, roedd Owen yn dadlau hefo'i gyn-wraig pan wnaeth o afael yn ei hwyneb a'i dal i lawr fel na allai symud.
Ym mis Tachwedd 2024, fe wnaeth Owen ei thagu, gafael ynddi gerfydd ei gwallt a'i llusgo i lawr y grisiau.
Tra ar fechnïaeth am y troseddau hyn, a hefo amodau i beidio cysylltu hefo hi, ymosododd Owen ar ei gyn-wraig eto ar 16 a 18 Ionawr, gan wthio ei phen i lawr i obennydd ac yna gafael ynddi er mwyn ei hatal hi rhag gadael.
‘Brawychus’
Fe adawodd hi'r cyfeiriad er mwyn aros hefo ffrind, ond fe ddaeth Derek Owen o hyd iddi yno a dechreuodd fygwth niweidio car ei ffrind wrth chwifio ffon golff.
Cafodd ei garcharu am ddwy flynedd a thri mis.
Dywedodd Amy Jones, Ymchwilydd Sifil: "Mae trais ac ymddygiad ymosodol Owen yn wirioneddol frawychus.
"Roedd y dioddefwr yn yr achos hwn yn hynod o ddewr yn codi llais o ran y cam-drin a ddioddefodd hi. Bydd yn sicr yn effeithio ar ei bywyd hi wrth symud ymlaen."
Dywedodd PC Ffion Roberts: "Buaswn i hefyd yn canmol ffrind y dioddefwr am ei help yn ystod yr ymchwiliadau.
"Ni fyddwn ni'n goddef trais o unrhyw fath a byddwn ni'n mynd ar drywydd unrhyw un sy'n ymddwyn yn dreisgar tuag at ferched a genethod."