Carcharu cyn-esgob am gam-drin plentyn yn rhywiol
Carcharu cyn-esgob am gam-drin plentyn yn rhywiol
Wrth iddo gael ei ddedfrydu i bedair blynedd a mis dan glo roedd Pierce yn gwbl ddi-emosiwn yn y doc.
Dywedodd y Barnwr, Catherine Richards, wrth Pierce: "Roedd aelodau o'ch plwyf yn eich parchu ac yn ymddiried ynoch chi.
"Roeddech chi'n anghymwys o'u parch a'u hymddiriedaeth.
"Un person yn unig dylai deimlo cywilydd a chi yw hwnnw."
Fis dwytha, fe ddatgelodd y rhaglen yma fod unigolyn arall wedi gwneud cwyn am Anthony Pierce ym 1993 ond bod yr eglwys ddim wedi rhoi'r wybodaeth i'r heddlu am 17 o flynyddoedd ac erbyn hynny roedd y dyn wnaeth y gwyn wedi marw a doedd yr heddlu ddim yn gallu cymryd camau pellach.
Er ei bod hi'n ymddangos bod rhai aelodau blaenllaw o'r eglwys yn ymwybodol o'r honiad hwnnw, cafodd Pierce ddyrchafiad a'i benodi'n Esgob.
Mewn datganiad dywedodd llefarydd ar ran yr Eglwys yng Nghymru eu bod yn teimlo'r cywilydd dwysaf am y troseddau ofnadwy ac yn ymddiheuro wrth y dioddefwr.
Mae'r Eglwys wedi dechrau adolygiad i'r ffordd y deliodd y sefydliad gyda'r honiadau am ymddygiad Pierce.
Mae hi'n bosib hefyd y bydd yn ystyried diarddel Mr Pierce o Urddau Sanctaidd, y gosb fwyaf difrifol sydd ar gael.
Serch hynny, parhau mae'r cwestiynau ynghylch pwy oedd yn gwybod beth a phryd, o fewn yr Eglwys yng Nghymru.