Dim mynediad at safle gwarchodedig ar Ynys Môn am chwe mis
Ni fydd aelodau'r cyhoedd yn cael mynd i safle gwarchodedig ar Ynys Môn am chwe mis er mwyn ei amddiffyn rhag difrod sy'n cael ei achosi gan weithgareddau antur.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi caniatáu parth dan waharddiad ar ran 1.8 milltir o hyd ar arfordir yr ynys rhwng 15 Mawrth a 15 Medi 2025.
Daw'r gwaharddiad yn dilyn cais gan yr elusen adar RSPB Cymru yn sgil pryderon am effaith gweithgareddau antur ar natur a bywyd gwyllt.
Roedd y cais yn ymateb i gynnydd yn y difrod a achoswyd gan weithgareddau antur nad oedd y tirfeddiannwr na'r deiliad wedi eu caniatáu ar y tir.
Mae niferoedd cynyddol o bobl yn cymryd rhan mewn gweithgareddau fel croesi clogwyni môr ac arfordira yn ystod y tymor bridio adar, meddai'r elusen.
Bydd y parth dan waharddiad yn cynnwys rhan o Gomin Penrhosfeilw, sydd o fewn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Glannau Ynys Gybi.
Mae'r tir yn cael ei brydlesu i'r RSPB gan Gyngor Sir Ynys Môn, sy'n rhan o Warchodfa Natur Ynys Lawd.
Gall aelodau’r cyhoedd dal i gerdded ar hyd y safle cyfan ar Lwybr Arfordir Cymru.
Nid oes unrhyw newid i fynediad ar hyd hawliau tramwy cyhoeddus neu lwybrau dynodedig meddai Cyfoeth Naturiol Cymru.