Cefnogaeth i gynlluniau 'unwaith mewn oes' i adeiladu llethr sgïo yn y de
Mae cynghorwyr mewn un sir yn y de wedi cefnogi cynllun "unwaith mewn oes" i adeiladu llethr sgïo a allai gyfrannu dros £300 miliwn i'r economi, yn ôl datblygwyr.
Mae datblygiad gan gwmni Rhydycar West yn cynnwys canolfan eira dan do, parc dŵr trofannol, canolfan gweithgareddau dan do, canolfan gweithgareddau awyr agored, dros 400 ystafell gwesty a llety coetir.
Fyddai'r cynllun, dan arweiniad Marvel Ltd, yn golygu adeiladu ar dir i'r de o'r A470 a'r A4102 ger Merthyr, ond mae argymhelliad i Gyngor Merthyr wrthod y cais gan swyddogion cynllunio.
Mewn cyfarfod o bwyllgor cynllunio'r cyngor ddydd Mercher, roedd cynghorwyr wedi pleidleisio o blaid y cais cynllunio, oedd yn groes i argymhellion y swyddogion,
Bydd y penderfyniad nawr yn cael ei wneud gan Benderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru o Lywodraeth Cymru.
'Cynllun mwyaf ers degawdau'
Dywedodd y Cynghorydd Clive Jones mai dyma oedd y cynllun mwyaf sydd wedi dod gerbron y pwyllgor cynllunio ers degawdau.
Ychwanegodd fod mwy o gefnogaeth i'r cynllun hwn nag sydd wedi bod i unrhyw gais arall am dros 20 mlynedd.
"Mae'r buddiannau economaidd hirdymor i Ferthyr Tudful yn enfawr," meddai.
"Mae angen buddsoddiad enfawr i Ferthyr Tudful ac mae gennym ni dyletswydd i symud y cais yma ymlaen ar gyfer y genhedlaeth bresennol a rhai'r dyfodol."
Ychwanegodd y Cynghorydd Declan Sammon ei fod yn "gyfle unwaith mewn oes" i greu rhywbeth ym Merthyr Tudful a fydd "o fudd i'n plant a phlant ein plant."
Yn ôl y cynllunwyr byddai'r prosiect yn creu 842 o swyddi, gyda dros 600 ohonynt yn mynd i bobl leol.
Ychwanegodd y cwmni y byddai’r prosiect yn cyfrannu £317.6m mewn gwerth ychwanegol crynswth i’r economi dros y cyfnod adeiladu ac yn cyfrannu £38.1m mewn gwerth ychwanegol crynswth i’r economi bob blwyddyn.
Mae rhai Henebion Rhestredig (Heneb Restredig) ac adeilad Rhestredig Gradd II ar y safle, ac mae'r safle hefyd yn ffurfio rhan o Dirwedd o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol Merthyr Tudful.
Yn ogystal, mae'r safle yn cynnwys Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Cwmglo a Glyndyrus, Safle o Bwysigrwydd Cadwraeth Natur Gorllewin Rhyd-y-car, rhan o goetir hynafol a pheth coetir sy'n dod o dan orchymyn cadw coed (GCC).
Mae rhwydwaith o ffyrdd a llwybrau cyhoeddus yn croesi drwy'r safle ac yn ymestyn i'r ardal gyfagos hefyd.
Pryder
Roedd y rhai oedd yn gwrthwynebu'r datblygiad yn crybwyll ei fod yn groes i bolisi cynllunio lleol a chenedlaethol, yr effaith weledol ar y tirwedd, yr effaith andwyol ar ddynodiadau hanesyddol, difrod posib i'r gamlas a phryder am yr effaith ar lwybrau cyhoeddus.
Hefyd roedd pryder am y cynnydd mewn tagfeydd ffyrdd, llygredd i'r aer, lefelau sŵn, sbwriel ac ymddygiad gwrthgymdeithasol a dinistrio cynefinoedd naturiol.