Newyddion S4C

Endometriosis: Rhaglen newydd yn gobeithio ‘codi ymwybyddiaeth’ o’r cyflwr

Molly Palmer

Wrth i bilsen newydd allai drawsnewid y driniaeth o endometriosis gael sêl bendith yn Lloegr, bydd rhaglen newydd ar S4C yn rhoi sylw i'r cyflwr sy'n effeithio miloedd o ferched.

Mae mis Mawrth yn fis i godi ymwybyddiaeth o endometriosis, sy’n effeithio ar 10% o fenywod y Deyrnas Unedig, gan gynnwys tua 160,000 yng Nghymru.

Mae endometriosis yn digwydd pan fydd celloedd tebyg i'r rhai yn leinin y groth yn tyfu mewn rhannau eraill o'r corff, fel y pelfis, y bledren a'r coluddyn.

Gall achosi poen difrifol, mislif trwm, blinder a phroblemau ffrwythlondeb.

Bydd rhaglen ddogfen newydd yn cael ei darlledu ddiwedd y mis ar blatfformau Hansh o’r enw Endo a Fi.

Y DJ Molly Palmer fydd yn cyflwyno’r rhaglen ddogfen 40 munud, ac mae hi ei hun yn dioddef o’r cyflwr ac yn dweud bod angen tynnu sylw ato.

Bydd y rhaglen yn cael ei rhannu’n dair rhan, sef Diagnosis, Ffrwythlondeb a Newid, a bydd yn dilyn Molly wrth iddi ddysgu mwy am y cyflwr, a siarad â merched sy'n dioddef ohono.

Gall diagnosis o  endometriosis gymryd hyd at naw mlynedd ac mae miloedd o fenywod yn clywed bod rhaid iddyn nhw “fyw efo’r peth”.

Fel rhan o’r rhaglen, bydd arddangosfa yng Nghastell Caerdydd ddydd Iau 13 Mawrth, rhwng 8:00 a 10:00 y bore.

Mi fydd dehongliad 30 troedfedd o’r groth wedi ei greu gan yr artist o Gymru, Delphi Campbell i gyd-fynd â’r rhaglen.

Mae Molly Palmer yn benderfynol o wybod pam fod menywod yn teimlo fel nad yw eu hanghenion meddygol yn cael eu cymryd o ddifri.

Gobaith

Mae pilsen newydd sydd wedi ei chreu i drawsnewid y driniaeth ar gyfer endometriosis, newydd gael sêl bendith i’w defnyddio ar y Gwasanaeth Iechyd yn Lloegr.

Mae’n bosib y bydd yn helpu tua 1,000 o fenywod bob blwyddyn yn Lloegr sy’n dioddef o’r cyflwr.

Ryego ydi'r bilsen ddyddiol hirdymor cyntaf sydd wedi'i thrwyddedu i drin y cyflwr, ac mae'n gweithio trwy rwystro hormonau penodol sy'n cyfrannu at endometriosis, tra hefyd yn darparu amnewid hormonau angenrheidiol.

Yn wahanol i’r triniaethau sy’n cael eu darparu drwy chwistrellau eisoes, a all waethygu symptomau i ddechrau, mae’n bosib cymryd y bilsen hon gartref, ac mae’n gweithio’n gynt.

Bydd hefyd yn lleihau’r angen am ymweliadau â chlinigau.

Dim ond ar gyfer cleifion y mae eu triniaeth feddygol neu lawfeddygol ar gyfer endometriosis wedi methu y bydd y cyffur ar gael ar y GIG.

Dywedodd Helen Knight, cyfarwyddwr gwerthuso meddyginiaethau yn Nice: “Mae’r driniaeth newydd hon yn nodi newid sylweddol posibl yn y modd yr ydym yn rheoli endometriosis, gan roi rheolaeth yn ôl yn nwylo cleifion tra’n sicrhau gwerth i’r trethdalwr.

“Yn hytrach na theithio i glinigau i gael pigiadau, mae ‘n bosib cymryd y dabled ddyddiol gartref erbyn hyn.

“Gall y driniaeth hefyd gael ei stopio a’i chychwyn yn haws, sy’n arbennig o bwysig i’r rhai sy’n bwriadu cael plant ac ar gyfer rheoli sgil-effeithiau.

Does dim sicrwydd eto a fydd y bilsen ar gael ar y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.

Mae Newyddion S4C wedi gofyn i Lywodraeth Cymru, ond hyd yma ddim wedi cael ymateb.

(Llun: X/Molly Palmer)

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.