Llofruddiaeth Joanne Penney: Arestio dyn arall
Mae dyn arall wedi ei arestio wedi i fenyw gael ei saethu'n farw yn Nhonysguboriau dros y penwythnos.
Cafodd dyn 20 oed o ardal Llaneirwg yng Nghaerdydd ei arestio ddydd Mercher ar amheuaeth o lofruddiaeth. Mae'n cael ei gadw yn y ddalfa.
Cafodd Joanne Penney, oedd yn 40 mlwydd oed, ei saethu'n farw yn ardal Llys Illtyd ddydd Sul.
Bellach mae chwech o bobl wedi eu harestio fel rhan o'r ymchwiliad. Mae un dyn 42 mlwydd oed o Donysguboriau wedi ei ryddhau heb ei gyhuddo, ond mae'r heddlu'n ymchwilio i honiadau o ymosod yn ei erbyn.
Mae'r heddlu wedi cael rhagor o amser i holi pedwar o bobl gafodd eu harestio yn Swydd Gaerlŷr yn Lloegr.
Dywedodd y Ditectif Brif Uwch Arolygydd Ceri Hughes:"Mae ditectifs sy'n gweithio ar yr ymchwiliad yma wedi cymryd camau breision yn eu ymholiadau."
Mae'r heddlu eisiau mwy o wybodaeth am ddau gar adawodd ardal Caerlŷr rhywbryd wedi 10.30 fore Sul. Teithiodd y ddau gerbyd i Dde Cymru, cyn gadael ychydig wedi'r saethu.
Y ddau gerbyd oedd Nissan Note lliw golau (rhif BK61 ZDC) a Volvo XC40 (rhif FD24 PZF).
Dywedodd y Prif Uwch Arolygydd Hughes eu bod eisiau unrhyw ddeunydd dashcam o gerbydau neu CCTV o gwmpas Llys Illtyd neu'r parc manwerthu gerllaw rhwng 5.30 a 6.30 nos Sul, Mawrth 9, fyddai'n dangos y cerbydau yma neu unrhyw dystion i'r digwyddiad.
"Fe fyddwn i'n annog unrhyw un sydd a gwybodaeth am farwolaeth Joanne, neu be ddigwyddodd yn yr eiddo nos Sul, i wneud y peth iawn a dod ymlaen. Gallai'r darn lleiaf o wybodaeth fod yn allweddol bwysig," meddai.