Gwrthod cais i adeiladu siop Aldi ar dir prifysgol Llambed
Mae cynllun i adeiladu siop Aldi ar dir prifysgol yn Llanbedr Pont Steffan wedi cael ei wrthod.
Ym mis Gorffennaf y llynedd, fe benderfynodd aelodau'r pwyllgor cynllunio gefnogi'r cynllun, gyda'r amod o osod cyfnod i ail-ystyried cyn gwneud penderfyniad terfynol.
Ond mewn cyfarfod o Bwyllgor Rheoli Datblygu'r cyngor ddydd Mercher pleidleisiodd cynghorwyr o 10 pleidlais i ddwy yn erbyn y cynllun.
Roedd swyddogion cynllunio Cyngor Ceredigion wedi argymell gwrthod y cynllun ar gyfer yr archfarchnad.
Byddai'r datblygiad yn cynnwys agor yr archfarchnad ar gaeau Prifysgol y Drindod Dewi Sant ar Ffordd Pontfaen a hefyd adfer pafiliwn rhestredig Gradd II.
Mae’r safle yn cynnwys dau gae rygbi glaswellt sy’n cael eu defnyddio ar gyfer rygbi, criced, pêl-droed, hoci a gweithgareddau chwaraeon eraill gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.
Roedd yr ymgeiswyr yn dweud y byddai'r datblygiad yn creu hyd at 40 o swyddi lleol newydd, yn ogystal â swyddi adeiladu tymor byr.
Ond dywedodd swyddogion y cyngor y byddai'n gwneud niwed i amgylchedd y pafiliwn Gradd II, ac nad oedd angen y siop fwyd yn Llanbedr Pont Steffan.
Fe fydd modd i Aldi apelio yn erbyn y penderfyniad.