Hen Ysgol Abersoch i gael bywyd newydd
Mae “diwedd trist” i ysgol bentref Abersoch wedi ei droi yn rhywbeth “positif” i gymuned Llŷn medd cynghorydd.
Bydd Ysgol Abersoch yn cael ei rhoi ar les i’r gymuned fel hwb cymdeithasol.
Fe bleidleisiodd Cyngor Gwynedd yn unfrydol o blaid rhoi'r adeilad ar les am “llai na rhent y farchnad agored” i’r grŵp cymunedol Menter Rabar ddydd Mawrth.
Bydd y les yn para am 99 o flynyddoedd.
Er bod gwrthwynebiad yn lleol cafodd y penderfyniad ei wneud i gau Ysgol Abersoch ym mis Rhagfyr 2021. Fe aeth y saith o ddisgyblion oedd yno i Ysgol Sarn Bach ar ôl i’r ysgol gau.
Fe wnaeth Menter Rabar, sydd yn grŵp nid ar elw, gais i gael y brydles am “swm bach”. Y bwriad yw sefydlu canolfan aml bwrpas.
Mae’r fenter yn barod wedi llwyddo i gael grantiau er mwyn cychwyn y gwaith o adnewyddu’r adeilad.
Dywedodd y Cynghorydd Paul Rowlinson fod “pethau da yn medru dod allan o sefyllfa drist.”
Ychwanegodd fod gan y cyngor bolisi o gynnig yr adeilad os yw ysgol yn cau i’r gymuned leol am bris bach.
“Mae Menter Rabar wedi codi llawer o arian, grantiau sylweddol. Felly’r bwriad yw sefydlu hwb aml bwrpas, caffi, ardal arddangos ar gyfer diwylliant, ystafell aml ddefnydd ar gyfer cyrsiau a sesiynau, unedau busnesa a gardd gymunedol,” ychwanegodd.
Dywedodd bod y grŵp wedi codi £100,000 trwy ffynonellau gwahanol ac wedi cael tua £300,000 o arian gan Lywodraeth Cymru.
Mae’r les am 99 o flynyddoedd meddai yn cynnig cyfle i Menter Rabar sicrhau grantiau gyda chymal yn y cytundeb fyddai yn caniatáu iddyn nhw ddod a’r les i ben ymhen deg mlynedd os nad yw’r ganolfan yn llwyddo.