Dim gwahardd ffonau clyfar yn ysgolion Cymru medd adroddiad
Mae adroddiad newydd yn datgan na ddylai gwaharddiad llwyr fod ar ffonau clyfar yn ysgolion Cymru.
Yn hytrach, mae Llywodraeth Cymru yn cael ei hannog i gynhyrchu canllawiau clir a fframwaith cadarn i ganiatáu i athrawon osod eu rheolau eu hunain mewn ysgolion.
Dywedodd Pwyllgor Deisebau’r Senedd, er y gallai ffonau clyfar achosi niwed, fod tystiolaeth hefyd o’r dyfeisiau yn cefnogi lles a diogelwch pobl ifanc.
Siaradodd aelodau’r pwyllgor gydag athrawon, disgyblion a rhieni. Fe wnaethon nhw ystyried y rheolau gwahanol sydd wedi eu gosod gan ysgolion, a’r berthynas gymhleth rhwng pobl ifanc a’u ffonau clyfar.
Yn eu hadroddiad, roedd y pwyllgor yn annog Llywodraeth Cymru i sefydlu canllawiau newydd ar gyfer ysgolion.
Cafodd yr adroddiad ei wneud wedi i ddeiseb a oedd yn galw am waharddiad ffonau clyfar mewn ysgolion, ac eithrio mewn amgylchiadau eithriadol, gael ei llofnodi gan fwy na 3000 o bobl.
Dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor, Carolyn Thomas, fod y “corff cynyddol o dystiolaeth am niwed ffonau clyfar yn drech na’r manteision i blant yn achosi pryder”.
Darlun 'cymhleth'
“Mae yna blant sy'n profi seiberfwlio, dibyniaeth a phryder ac yn methu a chanolbwyntio oherwydd eu ffonau,” meddai.
Ond, roedd hi hefyd yn nodi bod ochr arall i’r ddadl, a bod perthynas pobl ifanc â’u ffonau symudol yn un ‘cymhleth’.
“At ei gilydd, nid ydym yn credu ein bod yn cefnogi ‘gwaharddiad’ unffurf ar ffonau clyfar ym mhob ysgol yng Nghymru."
“Po fwyaf o dystiolaeth a glywsom, y mwyaf eglur y daeth hi nad yw’r berthynas rhwng pobl ifanc a’u ffonau yn syml.”
Dywedodd bod rhai pobl ifanc yn gallu “rheoli cyflyrau iechyd neu deimlo’n fwy hyderus i gerdded i’r ysgol” gan wybod y gallent gysylltu â rhiant bob amser.
Bydd y dystiolaeth sydd wedi ei gasglu gan y pwyllgor, ynghyd â’i argymhellion, yn awr yn cael eu hystyried gan Lywodraeth Cymru.