Wcráin 'yn barod i dderbyn cadoediad' am fis
Mae Wcráin wedi cyhoeddi eu bod yn barod i dderbyn cynnig America ar gyfer cadoediad a fyddai'n para am 30 o ddiwrnodau.
Cafodd hynny ei gyhoeddi mewn datganiad ar y cyd rhwng Wcráin ac America.
Yn ôl yr Americanwyr, mae angen i Rwsia bellach ddod i benderfyniad.
Wrth ymateb i gyhoeddiad Wcráin, mae'r Unol Daleithiau wedi dweud y bydd yn ail gydio yn y drefn o rannu cudd-wybodaeth ag Wcráin, a bydd yn cynnig cymorth iddyn nhw ym maes diogelwch unwaith yn rhagor.
Roedd yr Arlywydd Trump wedi cefnu ar Wcráin wedi cyfarfod aflwyddiannus rhyngddo â'r Arlywydd Zelensky ddiwedd Chwefror.
Daw'r datblygiad diweddaraf wedi trafodaethau rhwng cynrychiolwyr o Wcráin a swyddogion Americanaidd yn Jedda, Saudi Arabia, ddydd Mawrth.
Mae Wcráin wedi dweud eu bod yn fodlon derbyn argymhelliad yr Americanwyr a gweithredu'r cadoediad ar unwaith.
Dywedod Ymgynghorydd Diogelwch America, Mike Waltz y bydd yn siarad â swyddogion o Rwsia yn y dyddiau nesaf.
Ychwanegodd Ysgrifennydd Gwladol America, Marco Rubio fod Wcráin "yn barod i roi'r gorau i'r saethu a dechrau siarad."
Darbwyllo Rwsia
Yn ôl Arlywydd Wcráin Volodymyr Zelensky, mae angen i America bellach ddarbwyllo Rwsia i gytuno i'r cadoediad.
Mae e wedi diolch i'r Arlywydd Trump am y trafodaethau "adeiladol rhwng ein timau" yn Jeddah.
Ychwanegodd fod Wcráin yn barod i dderbyn argymhelliad America ar gyfer cadoediad yn yr awyr, môr ac ar flaen y gâd.
Wrth ymateb i'r datblygiadau, dywedodd Prif Weinidog Gwlad Pwyl, Donald Tusk bod hwn yn gam pwysig ymlaen tuag at heddwch.