Achos saethu Tonysguboriau: Pedwar arall wedi eu harestio
Mae pedwar yn rhagor wedi eu harestio ar ôl i ddynes 40 oed gael ei saethu'n farw yn Nhonysguboriau, Rhondda Cynon Taf nos Sul.
Mae Heddlu De Cymru yn parhau i ymchwilio i lofruddiaeth Joanne Penney, ac yn ystyried y posiblrwydd y gallai hi fod wedi ei chamgymryd am rywun arall.
Cafodd swyddogion eu galw i gyfeiriad yn Llys Illtyd am 18.10 ar 9 Mawrth, a darganfod Ms Penney gydag anafiadau difrifol, ar ôl iddi gael ei saethu yn ei brest.
Er gwaethaf ymdrechion y gwasanaethau brys, bu farw yn y fan a'r lle.
Cyhoeddodd yr heddlu fod y dyn 42 oed o Donysguboriau a gafodd ei arestio nos Sul yn dal i gael ei gadw yn y ddalfa.
Nos Lun, cafodd pedwar yn rhagor o bobl eu harestio yn ardal Heddlu Caerlŷr, medd yr heddlu.
Mae'r ddynes 21 oed o Oadby, Sir Gaerlŷr, dyn 27 oed hefyd o Oadby, dyn 68 oed o Braunstone Town, a dynes 39 oed o Gaerlŷr yn y ddalfa ar hyn o bryd.
Dywedodd y Ditectif Brif Uwcharolygydd Ceri Hughes: “Tra bod y newyddion am y pedwar sydd wedi eu harestio yn ddatblygiad sylweddol, mae'r ymchwiliad i farwolaeth Joanne yn parhau ac mae gennym dîm o dditectifs profiadol a gweithwyr arbenigol yn gweithio'n galed i geisio darganfod union amgylchiadau'r digwyddiad ofnadwy hwn.”
Ar sail eu hymchwiliad hyd yn hyn, mae'r heddlu yn dweud fod dau gerbyd, sef Nissan Note (BK61 ZDC) a Volvo XC40, lliw du (FD24 PZF) wedi teithio o ardal Caerlŷr i dde Cymru rywbryd ar ôl 10.30 fore Sul. Fe wnaethon nhw adael yn fuan wedi'r digwyddiad.
Mae'r heddlu yn awyddus i ddarganfod mwy am symudiadau'r cerbydau hynny. Mae'r ddau gar bellach ym meddiant yr heddlu.
Ychwanegodd yr heddlu eu bod yn bwrw golwg ar sawl ffactor, yn cynnwys y posibilrwydd y gallai Joanne Penney fod wedi ei chamgymryd am rywun arall.