Newyddion S4C

Carchar am oes i Kyle Clifford am lofruddio Louise, Hannah a Carol Hunt

Kyle Clifford

Mae dyn 26 oed a gyfaddefodd iddo saethu ei gyn gariad a'i chwaer gyda bwa croes y llynedd, a thrywanu eu mam i farwolaeth wedi ei ddedfrydu i garchar am oes.

Dywedodd y barnwr Mr Ustus Bennathan, na chaiff Kyle Clifford fyth ei ryddhau o garchar.

 Roedd Louise a Hannah Hunt yn ferched i'r sylwebydd rasio ceffylau John Hunt, a Carol Hunt yn wraig iddo.

Aeth Kyle Clifford o Ogledd Llundain i mewn i gartref y teulu Hunt yn Bushey, Sir Hertford ar 9 Gorffennaf 2024 yn ystod y prynhawn.

Cyflawnodd droseddau dychrynllyd yno.      

Cafodd Clifford ei arestio ar ôl iddo gael ei ddarganfod gydag anafiadau yn ardal Hilly Fields yn Enfield, gogledd Llundain, yn ddiweddarach.

Mae e hefyd wedi ei gael yn euog o dreisio ei gyn gariad, Louise Hunt.  

Doedd Clifford ddim yn bresennol yn y gwrandawiad.  

Hunandosturi

Wrth ei ddedfrydu, dywedodd y barnwr: "Fe wnaethoch ladd ei mam, Carol yn gyntaf, a ddangosodd hyd yn oed ar y diwrnod hwnnw garedigrwydd tuag atoch.

"Fe wnaethoch chi dreisio a lladd Louise, a ddaeth â'i pherthynas i ben gyda chi mewn modd tyner. Yna fe wnaethoch chi ladd Hannah Hunt a wnaeth ddim i'ch niweidio chi, heblaw amddiffyn ei chwaer."    

Aeth ymlaen i ddisgrifio Clifford fel dyn a oedd yn "llawn hunandosturi".

"Roeddech chi wedi cynllwynio i ladd y tair. Roeddech chi yno (y cartref) am bedair awr," ychwanegodd. 

Roedd Louise Hunt yn 25 oed, Hannah Hunt yn 28 oed, a Carol Hunt yn 61 oed. 

Wrth roi tystiolaeth yn nodi effaith y troseddau yn Llys y Goron Caergrawnt, dywedodd sylwebydd rasio ceffylau'r BBC John Hunt bod Clifford wedi ymddwyn mewn modd didostur, llwfr  ac yn llawn dialedd.

"Sgrechiadau uffern, Kyle, gallaf eu clywed yn dawel nawr," meddai.

"Bydd uffern yn rowlio'r carped coch ar ei gyfer.

"Ond gallaf ganolbwyntio ar gariad a chryfder fy merched a fydd yn para pob eiliad o bob dydd.

"Er fy mod wedi fy nghreithio yn wael, rydw i'n benderfynol o edrych tua'r dyfodol gyda phobl anhygoel o fy amgylch."  

'Anghenfil'

Roedd aelodau o deulu a ffrindiau John Hunt yn crïo wrth iddo ddisgrifio'r hunllef y mae e a'i deulu wedi ei brofi. 

Roedd swyddogion yr heddlu hefyd yn eu dagrau wrth i Amy, merch John Hunt roi ei thystiolaeth hi.

Dywedodd fod Clifford yn "anghenfil".

“Fe wnes ti gymryd fy mam a fy chwiorydd oddi arna i, ac fe wnes ti bron â lladd bron pob un o blant fy mam a fy nhad," meddai.  

"Gan siarad yn blaen Kyle, mae'r teulu Hunt yn fodau dynol a dwyt ti ddim.

"Rwyt ti wedi dinistrio cenedlaethau a oedd wastad wedi, ac a fyddai wedi mwynhau bywydau bendigedig a heddychlon gyda'i gilydd."

Wrth siarad yn uniongyrchol â'r llofrudd, dywedodd Alex Klein, partner Hannah Hunt: "Kyle, mae'r byd yn gwybod pa mor pathetig wyt ti.

"Does gen i ddim cydymdeimlad am yr hyn fydd yn digwydd i ti a dy deulu yn y dyfodol.  

"Rwyt ti'n ddim byd i fi. Rwyt ti'n fachgen bach gwan, ansicr, a ddywedodd gelwydd dro ar ôl tro."  

Wedi i'r barnwr gyflwyno ei ddedfryd, fe gofleidiodd John ac Amy Hunt ei gilydd. Yna fe wnaethon nhw gofleidio cariad Hannah Alex Klein, cyn gadael Llys Rhif 1.     

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.