‘Siomedig’: Wfftio dadleuon yn erbyn enwau Cymraeg yn unig i etholaethau Cymru
Mae Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru wedi wfftio dadleuon nad ydi enwau uniaith Gymraeg i etholaethau Senedd Cymru yn trin y Saesneg yn gydradd â’r Gymraeg.
Dywedodd Shereen Williams, prif weithredwr y comisiwn, eu bod nhw wedi derbyn sylwadau “gwrth-Gymraeg” oedd yn “hynod o siomedig” yn ymateb i’w ymgynghoriad diweddaraf.
Yn ôl y cynlluniau gwreiddiol byddai 12 o’r etholaethau gydag enwau Cymraeg a phedair gydag enwau dwyieithog.
Dan y cynlluniau newydd a gyhoeddwyd ddydd Mawrth mae gan bob un o’r 16 enw Cymraeg yn unig.
Bydd yr etholaethau newydd yn cael eu defnyddio ar gyfer etholiad Senedd Cymru 2026, lle y bydd 96 o wleidyddion yn cael eu hethol yn lle’r 60 blaenorol.
“Cafodd y Comisiwn nifer o gynrychiolaethau yn gwrthwynebu’r ymagwedd honno ar y sail nad oedd yn trin y Saesneg yn gydradd â’r Gymraeg, neu ei bod fel arall yn anfanteisiol i fuddiannau preswylwyr Cymru nad ydynt yn siarad Cymraeg,” meddai adroddiad terfynol y comisiwn.
“Nid yw’r Comisiwn yn cytuno â’r gwrthwynebiadau hyn.
“Fel y disgrifir yn yr Adroddiad Cynigion Diwygiedig, mae’r Comisiwn wedi pennu enwau unigol ar gyfer etholaethau yn Gymraeg dim ond pan ei fod yn ystyried bod yr enwau hynny’n dderbyniol eu defnyddio yn Saesneg, yn yr ystyr eu bod yn debygol o fod yn adnabyddadwy i breswylwyr yr un rhanbarth eang o Gymru nad yw’r Gymraeg yn brif iaith iddynt.
“Nid yw’r Comisiwn o’r farn y bydd preswylwyr Cymru nad yw’r Gymraeg yn brif iaith iddynt yn cael eu rhoi dan anfantais berthnasol o ganlyniad i’r angen i gyfeirio at enwau etholaethau’r Senedd, y maent yn adnabyddadwy yn lleol, er eu bod yn Gymraeg.
“Mae gan y Comisiwn ddyletswydd i hyrwyddo defnydd o’r Gymraeg hefyd, ac felly mae wedi defnyddio’r ymagwedd a ddisgrifir yn ei Adroddiad Cynigion Diwygiedig wrth bennu enwau etholaethau’r Senedd sydd wedi’u cynnwys yn ei adroddiad terfynol.”
Y drefn newydd
Bu’n rhaid i Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru greu 16 etholaeth drwy baru 32 o etholaethau seneddol y DU yng Nghymru, gan sicrhau bod pob etholaeth yn ffinio â’r un y mae wedi’i pharu â hi.
Bydd yr etholaethau newydd hyn yn dod i rym yn awtomatig yn etholiad y Senedd 2026, a bydd chwe Aelod o’r Senedd yn cael eu hethol o bob un, gan ddefnyddio’r dull D’Hondt a ddefnyddiwyd yn flaenorol ar gyfer rhestrau rhanbarthol y Senedd.
Yr 16 etholaeth a gynigir gan y Comisiwn yw:
1. Bangor Conwy Môn
2. Clwyd
3. Fflint Wrecsam
4. Gwynedd Maldwyn
5. Ceredigion Penfro
6. Sir Gaerfyrddin
7. Gŵyr Abertawe
8. Brycheiniog Tawe Nedd
9. Afan Ogwr Rhondda
10. Pontypridd Cynon Merthyr
11. Blaenau Gwent Caerffili Rhymni
12. Sir Fynwy Torfaen
13. Casnewydd Islwyn
14. Caerdydd Penarth
15. Caerdydd Ffynnon Taf
16. Pen-y-bont Bro Morgannwg
Mae’r Comisiwn wedi gwneud dau newid i’r parau ers ei Gynigion Diwygiedig, gyda Caerdydd Penarth a Caerdydd Ffynnon Taf yn disodli’r etholaethau arfaethedig, De-ddwyrain Caerdydd Penarth, a Gogledd-orllewin Caerdydd a gynigiwyd yn flaenorol.
Mae’r cyfluniad terfynol yn gweld etholaethau seneddol Gogledd Caerdydd a Dwyrain Caerdydd yn paru gyda’i gilydd, ynghyd â’r pâr o Orllewin Caerdydd a De Caerdydd a Phenarth.
Cynigiodd y Comisiwn y cyfuniad hwn yn ei adroddiad Cynigion Cychwynnol cyn ei newid yn ei Gynigion Diwygiedig.