Huw 'Fash' Rees: 'Rhoi dillad priodas i elusennau yn rhoi elfen positif i gyfnod tywyll'
Mae'r cyflwynydd ffasiwn Huw Rees wedi dweud bod rhoi dillad priodas i elusennau a cholegau yn Sir Gaerfyrddin yn "rhoi elfen positif i rwbeth galle fod yn gyfnod tywyll".
Ym mis Ionawr cyhoeddodd Huw "Fash" Rees, fel mae'n cael ei adnabod, y bydd yn dirwyn ei fusnes dillad priodas yn Llandeilo i ben oherwydd heriau iechyd.
Fel rhan o'r broses o ddod â Huw Rees Brides i ben, mae Huw wedi bod yn cynnal sêl gan roi rhai o'r dillad i elusennau a cholegau yn Sir Gaerfyrddin.
"Mae’n rhoi elfen positif i rwbeth galle fod yn gyfnod tywyll," meddai wrth Newyddion S4C.
"Oherwydd taw iechyd sydd 'di effeithio ar y busnes, mae’n neis bod wbath positif yn dod mas o hynny hefyd a’r faith bo’ fi’n cael mynd i’r colege i helpu’r myfyrwyr gyda’r prosiecte hefyd."
Mae Huw wedi bod yn codi ymwybyddiaeth am glefyd yr arennau – ac yntau bellach ar beiriant dialysis.
Fe gafodd wybod bod ei arennau’n ddiffygiol yn 2019 wedi iddo ddioddef cyfnod o salwch difrifol.
Cafodd lawdriniaeth ar ei ddwy aren y flwyddyn honno er mwyn ceisio ei iachau.
Ond wedi cyfnod y pandemig, gwaethygodd cyflwr ei arennau unwaith yn rhagor.
Fe gafodd rybudd ddwy flynedd yn ôl y byddai'n rhaid iddo ystyried triniaeth dialysis "o ddifrif".
'Teimlad hyfryd'
Dywedodd Huw ei fod wedi rhoi'r rhan fwyaf o'r dillad priodas i siop elusen Y Groes Goch Brydeinig yn Llandeilo.
"Mae’r siop i fyny’r hewl ac mae perthynas gwych 'da ni gyda’r siop hynny ac mae’n nhw’n gwneud gwaith da," meddai.
"Ni’n dangos eu dillad nhw yn aml iawn hefyd ar raglen Prynhawn Da pan ni’n neud slot ar ailgylchu."
Ychwanegodd ei fod wedi rhoi dillad i siop elusen y West Wales Poundies yn Llandeilo, sy'n achub cŵn oddi ar y stryd.
Mae'r elusen yn agos at galon Huw, gan ei fod wedi cael ei gi, Gruff, ganddyn nhw.
Mae peth o'r dillad hefyd wedi eu rhoi i adran ffasiwn Coleg Celf Sir Gaerfyrddin ac adran wisgoedd Coleg Penybont.
"Maen nhw’n mynd i fod yn gwneud prosiectau ar ailgylchu, achos y problem efo dillad priodas yw mae bod yn gynaliadwy yn anodd iawn," meddai.
"Dyw pobl ddim yn gwybod beth i’w wneud 'da'r ffrogiau 'ma, naill ai maen nhw’n eistedd yn y cwpwrdd am flynydde neu mae pobl yn trio gwerthu nhw am tamaid bach o’r pris maen nhw 'di talu amdanyn nhw."
Dyma'r trydydd tro i Huw roi dillad i'r colegau - ac mae'n dweud bod gallu gwneud hynny'n "hyfryd".
"Mae’n deimlad hyfryd achos mae’r siop yn cau achos fi'n diodde o glefyd yr aren a goro neud dialysis peder neu pum gwaith yr wythnos," meddai.
"O'n i ffili cadw fy mys ar bob botwm."
'Penderfyniad anodd'
Ym mis Ionawr, dywedodd Huw fod heriau iechyd yn gyfrifol am y penderfyniad i gau'r busnes am nad oedd hynny yn gadael digon o amser i redeg siop briodas.
Mewn datganiad ar y cyfryngau cymdeithasol bryd hynny, dywedodd bod rhoi'r gorau i'r busnes yn "benderfyniad anodd".
"Bydd Huw Rees yn rhoi’r gorau i fasnachu ddiwedd mis Mawrth 2025," meddai.
"Mae problemau iechyd parhaus i gyd yn cymryd llawer o amser sy’n gadael ychydig o amser ar gyfer rhedeg siop briodas.
"Rydym wedi cyslltu gyda'n holl briodferched. Byddwn yn parhau i weithio gyda phob priodferch bresennol tan eu priodasau.
"Nid oes unrhyw sgandal, dim priodferch heb ffrog. Byddwn yn dirwyn y busnes i ben yn dawel tan ddiwedd mis Mawrth.
"Diolch enfawr i briodferched a theuluoedd sydd wedi ein cefnogi ers 16 mlynedd, 14 o'r rheiny fel enillwyr gwobrau cenedlaethol. Diolch Huw a’r tîmX."
Bydd siop Huw Rees Brides yn cau ddydd Sadwrn, 22 Mawrth.