'Fel dringo Everest': Huw 'Fash' Rees yn trafod yr her o dderbyn dialysis
'Fel dringo Everest': Huw 'Fash' Rees yn trafod yr her o dderbyn dialysis
“Does dim gwellhad o’r cyflwr sydd arna’i ar hyn o bryd… Er bod e’n swnio’n ddramatig, mae rhaid i chi sylweddoli bod eich bywyd chi ddim yn mynd i fod yn hir.”
Gyda thro ar ei fyd yn ddiweddar, dyma eiriau’r cyflwynydd Huw ‘Fash’ Rees wrth iddo geisio codi ymwybyddiaeth am glefyd yr arennau – ac yntau bellach ar beiriant dialysis.
Mae’r peiriant dialysis yn glanhau’r gwaed ar ran yr arennau wedi iddyn nhw roi’r gorau i weithio, gan dynnu gwastraff o’r corff.
Yn wyneb adnabyddus i wylwyr S4C, mae arbenigwr ffasiwn raglen Prynhawn Da a Heno wedi penderfynu defnyddio ei sefyllfa er mwyn trafod y cyflwr yn agored, a hynny wedi dros 30 o flynyddoedd o gadw ei fywyd personol “i un ochr,” meddai.
“Mae Huw Fash a mae Huw Rees,” esboniodd wrth Newyddion S4C.
“Ond ers dod fan hyn [uned arennol Ysbyty Treforys, Abertawe], fi ‘di sylweddoli pa mor bwysig yw e i roi cyhoeddusrwydd a codi ymwybyddiaeth o’r cyflwr yma.
“Yn wir, erbyn i chi dod i ddeall bod rhywbeth yn bod arnoch chi – mae’n rhy hwyr.”
‘Ofn’
Fe gafodd Huw wybod bod ei arennau’n ddiffygiol yn 2019 wedi iddo ddioddef cyfnod o salwch difrifol, ac yntau’n profi symptomau o fod eisiau chwydu yn gyson, colli chwant bwyd, poen yn ei frest a thrafferth cerdded.
Cafodd lawdriniaeth ar ei ddwy aren er mwyn ceisio ei iachau, y cyntaf ym mis Mehefin y flwyddyn honno a’r ail dro ym mis Gorffennaf.
Ond wedi cyfnod y pandemig, roedd cyflwr ei arennau wedi gwaethygu unwaith yn rhagor ac fe gafodd ei rybuddio 18 mis yn ôl y byddai'n rhai iddo ystyried triniaeth dialysis “o ddifrif.”
“Ges i’r ofn fwya’,” meddai’r cyflwynydd.
“O’n i’n sylweddoli bydda’n fywyd i’n newid yn llwyr ar ddialysis – bod y pethau o’n i’n cymryd yn ganiataol bob dydd bod fi gallu ‘neud, byddwn i ddim yn gallu ‘neud y pethau ‘na, bydda fe wir yn cael effaith mawr, mawr ar fy mywyd i. Ac wrth gwrs dwi’n byw i weithio, dwi wrth fy modd gyda’n swydd.”
Mae'n rhaid derbyn llawdriniaeth arbennig ar y fraich cyn medru ddechrau dialysis. Fel rhan o lawdriniaeth ‘AV fistular’ mae un o redweli claf yn cael ei gysylltu â gwythïen fel bod modd cysylltu gyda pheiriant dialysis, gan sicrhau mynediad at ddigonedd o waed.
Ond roedd pryderu am gael y llawdriniaeth honno, yn ogystal â gorfod dechrau derbyn dialysis, wedi effeithio er ei iechyd mewn ffyrdd eraill.
Fe ddioddefodd symptomau o drawiad ar y galon o ganlyniad i'r straen a'r holl bwysau meddyliol.
Wedi iddo gael llawdriniaeth ‘triple bypass’ yn y gorffennol, penderfynodd y cyflwynydd i gael profion ar ei galon ond roedd hynny’n golygu bod yn rhaid iddo ddechrau dialysis ar frys – deuddydd yn unig wedi’r Nadolig y llynedd.
‘Codi ymwybyddiaeth’
Mae’r cyflwynydd bellach yn dweud ei fod yn ddiolchgar am hynny gan fod dialysis wedi gwella safon ei fywyd.
Dywedodd Fiona Loud, Cyfarwyddwr Polisi elusen Kidney Care UK y byddai’r rhan fwyaf o bobl yn teimlo’n “llawer gwell” wrth dderbyn triniaeth dialysis.
“Efallai bod eich symptomau wedi gwaethygu dros amser nes eich bod chi ddim yn sylweddoli pa mor wael yr oeddech yn eu teimlo,” meddai.
Yn ôl Sarah Sidell, Rheolwr Cyfarwyddiaeth Uned Arennol Ysbyty Treforys yn Abertawe ble mae Huw yn cael ei driniaeth, mae oddeutu 1,400 oedolion yng Nghymru yn derbyn triniaeth i lanhau’r gwaed ar ran yr arennau drwy ddialysis.
Gan nad oes modd gwella o’i gyflwr, mae’r cyflwynydd yn disgwyl cael mynd ar restr trawsblaniad. Mae oddeutu 100 o lawdriniaethau trawsblaniad yn cael eu cynnal y flwyddyn, meddai Ms Sidell.
Yn ôl ffigyrau elusen Aren Cymru, mae bron i 94,000 o gleifion yng Nghymru wedi cael diagnosis o glefyd yr aren.
Dywedodd Ms Sidell fod y galw am wasanaethau ar gyfer triniaeth i fynd i’r afael â chlefyd yr aren yn parhau i gynyddu ar hyd a lled Cymru, gyda disgwyl i’r galw gynyddu hyd at 10% mewn rhai ardaloedd.
Mae angen codi ymwybyddiaeth o glefyd yr aren a dialysis oherwydd yn aml iawn, mae’r cyflwr yn cael ei ganfod pan ei fod bellach yn ddifrifol, meddai.
“Drwy godi ymwybyddiaeth, gallwn ganfod problemau ac ymyrryd yn gynt, a gall hynny wella ansawdd bywyd y rheiny sy’n cael eu heffeithio,” ychwanegodd.
Cam mawr ymlaen
Er bod heriau iechyd meddwl ynghlwm â’i ddiagnosis, mae Huw Fash yn parhau i aros yn bositif.
“Fi’n credu i nifer, y peth anodd gyda hwn yw derbyn y ffaith mai nid bywyd hir sydd ‘da chi.
“Ond fi’n credu bod cael blynyddoedd sy’n cynnig bywyd da i chi yn hytrach na bod yn sâl yn y gwely am 30 o flynyddoedd – bydd llawer gwell ‘da fi fod yn teimlo ‘mod i’n gallu cario ‘mlaen ‘da fywyd am 15 blynedd,” meddai.
Mae Huw yn derbyn ei driniaeth mewn uned arbenigol yn Ysbyty Treforys. Yno fe gafodd hyfforddiant ar sut i ddefnyddio’r peiriant dialysis heb gymorth.
Fe fydd yn cael mynd a’i beiriant dialysis adref ym mis Awst er mwyn cael ei driniaeth dros nos.
Yn ystod yr wythnosau diwethaf, mae wedi cymryd cam mawr ymlaen wrth lwyddo i gysylltu ei hun i'r peiriant dialysis, meddai.
“Mae eich corff chi’n gweud wrtho’ chi ‘na, na, fi ddim moyn hyn i ddigwydd’ a mae’ch pen chi’n gweud ‘fi moyn gwthio fe mas, fi moyn cael gwared arno fe’, ond yn amlwg chi gorfod dodi fe mewn i’r gwythïennau.
“Fi’n teimlo fel fi wir ‘di dringo Everest,” meddai.