‘Mae Debenhams yn ôl’: Cwmni Boohoo yn newid ei enw
Mae cwmni Boohoo Group wedi newid ei enw i Debenhams Group ar ôl prynu brand y siop oedd yn arfer bod yn amlwg ar strydoedd mawr y DU.
Fe wnaeth Boohoo brynu brand a gwefan Debenhams am £55m ym mis Ionawr 2021 a'i ail-sefydlu fel siop ar-lein.
Fe aeth Debenhams i ddwylo'r gweinyddwyr ym mis Ebrill 2020.
Bydd y brand Boohoo, sy'n gwerthu dillad i bobl ifanc 16-30 oed, yn parhau fel is-gwmni i’r cwmni Debenhams Group.
“Mae Debenhams yn ôl,” meddai prif weithredwr y cwmni, Dan Finchley.
“Mae’r brand Prydeinig eiconig yn ôl o afael y gweinyddwyr ac wedi’i drawsnewid yn llwyddiannus.
“Mae wedi ei drawsnewid yn siop adrannol ar-lein mwyaf blaenllaw Prydain.”
Ychwanegodd: “Rydym yn symud ymlaen fel Debenhams Group.
“Dyma foment allweddol yn ein taith, sy’n adlewyrchu ein strategaeth newydd, ein harweinyddiaeth newydd a’n dechrau newydd.”
Bydd angen i gyfranddalwyr gymeradwyo newid enw’r cwmni rhestredig ehangach yn ffurfiol, gyda chyfarfod wedi’i drefnu iddynt bleidleisio ar y newid ar Fawrth 28.