
Caerdydd: Bar poblogaidd Nos Da yn ailagor gydag enw newydd
Mae perchnogion bar oedd yn arfer bod yn boblogaidd yng Nghaerdydd wedi dweud y bydd yn ailagor ym mis Ebrill gydag enw newydd.
Bydd bar On the River yn agor ei ddrysau yn y brifddinas fis nesaf a hynny yn yr adeilad lle'r oedd bar Nos Da yn arfer bod.
Bydd yr adeilad ar Stryd Despenser, sydd gyferbyn â Stadiwm Principality, yn cynnig llety i hyd at 32 o bobl.
Mae cynlluniau hefyd i agor siop goffi a bar allanol gyda theras yn edrych allan ar Afon Taf.
Fe wnaeth Nos Da gau i lawr yn ystod y pandemig, ac fe gafodd yr adeilad ei brynu ym mis Awst 2023.
Y tad a'r mab Mike a Michel Catris sydd y tu ôl i'r prosiect ailddatblygu.
"Nid ailddatblygiad yn unig yw hwn - mae’n ymrwymiad i anadlu bywyd newydd i ardal sydd wedi bod yn galw am bositifrwydd," meddai Michel.
"Rydyn ni’n troi safle oedd yn broblem yn ofod cymdeithasol y mae mawr ei angen, ac rydyn ni’n ei wneud gyda’r gymuned mewn golwg."

Cyn i'r gwaith ailddatblygu ddechrau, roedd yr adeilad yn cael ei ddefnyddio fel safle gollwng sbwriel yn anghyfreithlon.
Roedd defnydd gwrthgymdeithasol o gyffuriau ac alcohol hefyd yn broblem yno.
Yn 2022, anfonodd Cyngor Caerdydd dîm arbenigol i mewn i lanhau rhan awyr agored yr eiddo, a oedd yn llawn o sbwriel a nodwyddau wedi'u defnyddio.
Erbyn hyn mae'r gwaith o adnewyddu’r adeilad bron wedi’i gwblhau, ac mae disgwyl i On the River fod yn gwbl weithredol erbyn yr haf.
Dywedodd y datblygwyr fod cynlluniau hefyd ar y gweill i gydweithio â thrigolion lleol a chynnig cymysgedd o adloniant a digwyddiadau.
"Ni allwn aros i groesawu pawb i On the River yn fuan," meddai Mike.
"Mae’n ofod gwirioneddol unigryw, ac rydym yn benderfynol o’i wneud yn rhywbeth arbennig."